Rhan 2 —Cydgysylltwyr gofal

Gofynion cymhwystra i gydgysylltwyr gofal4

1

Mae person yn gymwys i'w benodi'n gydgysylltydd gofal os yw'r person hwnnw—

a

yn cyflawni un neu ragor o'r gofynion proffesiynol yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn; a

b

wedi dangos er boddhad y darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol fod ganddo brofiad, sgiliau neu hyfforddiant priodol, neu gyfuniad priodol o brofiad, sgiliau a hyfforddiant.

2

Wrth benderfynu a yw person yn bodloni'r gofyniad penodi ym mharagraff (1)(b) rhaid rhoi sylw i safonau mewn unrhyw Godau Ymarfer a ddyroddir o dan adran 44 (codau ymarfer) o'r Mesur, ac unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dro i dro gan Weinidogion Cymru.