Rhan 6 —Trosiannol

Darpariaethau trosiannol11

1

Yn achos claf perthnasol nad oes cydgysylltydd gofal wedi'i benodi iddo ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol—

a

penodi cydgysylltydd gofal i'r claf hwnnw heb fod yn fwy nag 1 mis calendr ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;

b

sicrhau bod y cydgysylltydd a benodir yn bodloni'r gofynion cymhwystra i gydgysylltwyr gofal a nodir yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn ac Atodlen 1 iddynt; ac

c

os yw'r cydgysylltydd gofal wedi'i gyflogi gan berson arall, sicrhau bod cydsyniad y person arall i benodiad y cydgysylltydd gofal wedi'i gael yn unol ag adran 16(2) (darpariaeth bellach ynghylch penodi cydgysylltwyr gofal) o'r Mesur.

2

Os oes cydgysylltydd gofal wedi'i benodi i glaf perthnasol ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym—

a

bernir bod y cydgysylltydd gofal wedi'i benodi'n gydgysylltydd gofal i'r claf hwnnw yn unol â rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn ac Atodlen 1 iddynt, a chyfeirir ato fel “cydgysylltydd gofal tybiedig” at ddibenion y rheoliad hwn;

b

os yw'r cydgysylltydd gofal tybiedig wedi'i gyflogi gan berson arall heblaw darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol y claf, rhaid i gydsyniad y person arall i benodiad y cydgysylltydd gofal tybiedig gael ei sicrhau gan y darparydd yn unol ag adran 16(2) o'r Mesur; ac

c

os na cheir cydsyniad y person sy'n gyflogwr i'r cydgysylltydd gofal tybiedig, rhaid i'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol benodi cydgysylltydd gofal arall i'r claf hwnnw heb fod yn fwy nag 1 mis calendr ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

3

Os nad yw'r cydgysylltydd gofal tybiedig i glaf perthnasol yn bodloni'r gofynion cymhwystra i'w benodi'n gydgysylltydd gofal yn unol â rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn ac Atodlen 1 iddynt, rhaid i ddarparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol y claf benodi cydgysylltydd gofal i'r claf hwnnw sy'n bodloni'r gofynion cymhwystra heb fod yn fwy nag 1 mis calendr ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

4

Yn achos claf perthnasol sydd heb gynllun gofal a thriniaeth eisoes mewn bod ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i'r cydgysylltydd gofal—

a

gweithio gyda'r claf hwnnw a darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol y claf hwnnw gyda golwg ar gytuno ar y canlyniadau y bwriedir i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl i'r claf hwnnw eu sicrhau, a pharatoi a chofnodi mewn ysgrifen gynllun gofal a thriniaeth i'r claf hwnnw yn unol â rheoliad 5 heb fod yn fwy na 60 diwrnod ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;

b

ymgynghori â phersonau yn unol â rheoliad 6 fel rhan o broses cytuno ar ganlyniadau a pharatoi cynllun gofal a thriniaeth i'r claf hwnnw heb fod yn fwy na 60 diwrnod ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;

c

darparu copïau o gynllun gofal a thriniaeth y claf hwnnw yn unol â rheoliad 8 heb fod yn fwy na 10 diwrnod gwaith ar ôl i'r cynllun gael ei baratoi a'i gofnodi mewn ysgrifen; ac

ch

adolygu cynllun gofal a thriniaeth y claf hwnnw heb fod yn fwy na 12 mis calendr ar ôl y dyddiad y cafodd y cynllun ei baratoi a'i gofnodi mewn ysgrifen.

5

Os oes gan glaf perthnasol gynllun gofal a thriniaeth eisoes mewn bod ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i'r cydgysylltydd gofal—

a

adolygu'r cynllun gofal a thriniaeth hwnnw sydd eisoes mewn bod heb fod yn fwy na 12 mis calendr ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;

b

fel rhan o'r adolygiad ar y cynllun gofal a thriniaeth hwnnw sydd eisoes mewn bod i'r claf hwnnw—

i

ymgynghori â phersonau yn unol â rheoliad 6,

ii

gweithio gyda'r claf hwnnw a darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol y claf hwnnw gyda golwg ar gytuno ar y canlyniadau y bwriedir i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl i'r claf hwnnw eu sicrhau, a pharatoi a chofnodi mewn ysgrifen gynllun gofal a thriniaeth (y “cynllun newydd”) yn unol â rheoliad 5; ac

c

darparu copïau o gynllun newydd y claf hwnnw fel y darperir yn rheoliad 8.