- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11.—(1) Yn achos claf perthnasol nad oes cydgysylltydd gofal wedi'i benodi iddo ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol—
(a)penodi cydgysylltydd gofal i'r claf hwnnw heb fod yn fwy nag 1 mis calendr ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;
(b)sicrhau bod y cydgysylltydd a benodir yn bodloni'r gofynion cymhwystra i gydgysylltwyr gofal a nodir yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn ac Atodlen 1 iddynt; ac
(c)os yw'r cydgysylltydd gofal wedi'i gyflogi gan berson arall, sicrhau bod cydsyniad y person arall i benodiad y cydgysylltydd gofal wedi'i gael yn unol ag adran 16(2) (darpariaeth bellach ynghylch penodi cydgysylltwyr gofal) o'r Mesur.
(2) Os oes cydgysylltydd gofal wedi'i benodi i glaf perthnasol ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym—
(a)bernir bod y cydgysylltydd gofal wedi'i benodi'n gydgysylltydd gofal i'r claf hwnnw yn unol â rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn ac Atodlen 1 iddynt, a chyfeirir ato fel “cydgysylltydd gofal tybiedig” at ddibenion y rheoliad hwn;
(b)os yw'r cydgysylltydd gofal tybiedig wedi'i gyflogi gan berson arall heblaw darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol y claf, rhaid i gydsyniad y person arall i benodiad y cydgysylltydd gofal tybiedig gael ei sicrhau gan y darparydd yn unol ag adran 16(2) o'r Mesur; ac
(c)os na cheir cydsyniad y person sy'n gyflogwr i'r cydgysylltydd gofal tybiedig, rhaid i'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol benodi cydgysylltydd gofal arall i'r claf hwnnw heb fod yn fwy nag 1 mis calendr ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
(3) Os nad yw'r cydgysylltydd gofal tybiedig i glaf perthnasol yn bodloni'r gofynion cymhwystra i'w benodi'n gydgysylltydd gofal yn unol â rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn ac Atodlen 1 iddynt, rhaid i ddarparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol y claf benodi cydgysylltydd gofal i'r claf hwnnw sy'n bodloni'r gofynion cymhwystra heb fod yn fwy nag 1 mis calendr ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
(4) Yn achos claf perthnasol sydd heb gynllun gofal a thriniaeth eisoes mewn bod ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i'r cydgysylltydd gofal—
(a)gweithio gyda'r claf hwnnw a darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol y claf hwnnw gyda golwg ar gytuno ar y canlyniadau y bwriedir i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl i'r claf hwnnw eu sicrhau, a pharatoi a chofnodi mewn ysgrifen gynllun gofal a thriniaeth i'r claf hwnnw yn unol â rheoliad 5 heb fod yn fwy na 60 diwrnod ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;
(b)ymgynghori â phersonau yn unol â rheoliad 6 fel rhan o broses cytuno ar ganlyniadau a pharatoi cynllun gofal a thriniaeth i'r claf hwnnw heb fod yn fwy na 60 diwrnod ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;
(c)darparu copïau o gynllun gofal a thriniaeth y claf hwnnw yn unol â rheoliad 8 heb fod yn fwy na 10 diwrnod gwaith ar ôl i'r cynllun gael ei baratoi a'i gofnodi mewn ysgrifen; ac
(ch)adolygu cynllun gofal a thriniaeth y claf hwnnw heb fod yn fwy na 12 mis calendr ar ôl y dyddiad y cafodd y cynllun ei baratoi a'i gofnodi mewn ysgrifen.
(5) Os oes gan glaf perthnasol gynllun gofal a thriniaeth eisoes mewn bod ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i'r cydgysylltydd gofal—
(a)adolygu'r cynllun gofal a thriniaeth hwnnw sydd eisoes mewn bod heb fod yn fwy na 12 mis calendr ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;
(b)fel rhan o'r adolygiad ar y cynllun gofal a thriniaeth hwnnw sydd eisoes mewn bod i'r claf hwnnw—
(i)ymgynghori â phersonau yn unol â rheoliad 6,
(ii)gweithio gyda'r claf hwnnw a darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol y claf hwnnw gyda golwg ar gytuno ar y canlyniadau y bwriedir i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl i'r claf hwnnw eu sicrhau, a pharatoi a chofnodi mewn ysgrifen gynllun gofal a thriniaeth (y “cynllun newydd”) yn unol â rheoliad 5; ac
(c)darparu copïau o gynllun newydd y claf hwnnw fel y darperir yn rheoliad 8.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: