Rhan 5 —Rhyddhau
Gwybodaeth i bersonau sy'n peidio â bod yn gleifion perthnasol10
1
Rhaid i'r wybodaeth a ganlyn gael ei darparu mewn ysgrifen i unigolyn wrth ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd—
a
y rheswm dros ryddhau'r unigolyn hwnnw o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd; a
b
y camau a all gael eu cymryd, a chan bwy, os yw'r unigolyn hwnnw o'r farn bod angen rhagor o gymorth a chyngor mewn perthynas â'i iechyd meddwl yn sgil ei ryddhau.
2
Yn ychwanegol at yr wybodaeth ym mharagraff (1), rhaid i oedolyn gael gwybodaeth mewn ysgrifen am ei hawl i gael asesiad o dan Ran 3 (asesiadau ar ddefnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd) o'r Mesur.
3
Yn ychwanegol at yr wybodaeth ym mharagraff (1), pan fo unigolyn wedi'i ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd fel plentyn ond ei fod yn dod yn oedolyn yn ystod y cyfnod rhyddhau perthnasol rhaid i'r wybodaeth a ganlyn gael ei darparu mewn ysgrifen—
a
gwybodaeth am ei hawl wrth gyrraedd deunaw oed i gael asesiad o dan Ran 3 o'r Mesur;
b
esboniad ar sut mae ei ben-blwydd yn ddeunaw oed yn berthnasol at ddibenion hawl i gael asesiad o'r fath; ac
c
faint o'r cyfnod rhyddhau perthnasol sydd heb ddirwyn i ben ar ben-blwydd yr unigolyn yn ddeunaw oed.
4
Caniateir i wybodaeth heblaw'r hyn y mae'n rhaid ei ddarparu yn unol â pharagraffau (1), (2) a (3) gael ei darparu i'r unigolyn wrth ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd
5
Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn rhyddhau unigolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, rhaid i'r Bwrdd ddarparu gwybodaeth i'r unigolyn hwnnw yn unol â pharagraffau (1), (2), (3) a (4) os nad oes awdurdod lleol, ar y dyddiad rhyddhau, yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd i'r unigolyn hwnnw.
6
Pan fo awdurdod lleol yn rhyddhau unigolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, rhaid i'r awdurdod ddarparu gwybodaeth i'r unigolyn hwnnw yn unol â pharagraffau (1), (2), (3) a (4) os nad oes Bwrdd Iechyd Lleol, ar y dyddiad rhyddhau, yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd i'r unigolyn hwnnw.