- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
10.—(1) Rhaid i'r wybodaeth a ganlyn gael ei darparu mewn ysgrifen i unigolyn wrth ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd—
(a)y rheswm dros ryddhau'r unigolyn hwnnw o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd; a
(b)y camau a all gael eu cymryd, a chan bwy, os yw'r unigolyn hwnnw o'r farn bod angen rhagor o gymorth a chyngor mewn perthynas â'i iechyd meddwl yn sgil ei ryddhau.
(2) Yn ychwanegol at yr wybodaeth ym mharagraff (1), rhaid i oedolyn gael gwybodaeth mewn ysgrifen am ei hawl i gael asesiad o dan Ran 3 (asesiadau ar ddefnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd) o'r Mesur.
(3) Yn ychwanegol at yr wybodaeth ym mharagraff (1), pan fo unigolyn wedi'i ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd fel plentyn ond ei fod yn dod yn oedolyn yn ystod y cyfnod rhyddhau perthnasol rhaid i'r wybodaeth a ganlyn gael ei darparu mewn ysgrifen—
(a)gwybodaeth am ei hawl wrth gyrraedd deunaw oed i gael asesiad o dan Ran 3 o'r Mesur;
(b)esboniad ar sut mae ei ben-blwydd yn ddeunaw oed yn berthnasol at ddibenion hawl i gael asesiad o'r fath; ac
(c)faint o'r cyfnod rhyddhau perthnasol sydd heb ddirwyn i ben ar ben-blwydd yr unigolyn yn ddeunaw oed.
(4) Caniateir i wybodaeth heblaw'r hyn y mae'n rhaid ei ddarparu yn unol â pharagraffau (1), (2) a (3) gael ei darparu i'r unigolyn wrth ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd
(5) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn rhyddhau unigolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, rhaid i'r Bwrdd ddarparu gwybodaeth i'r unigolyn hwnnw yn unol â pharagraffau (1), (2), (3) a (4) os nad oes awdurdod lleol, ar y dyddiad rhyddhau, yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd i'r unigolyn hwnnw.
(6) Pan fo awdurdod lleol yn rhyddhau unigolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, rhaid i'r awdurdod ddarparu gwybodaeth i'r unigolyn hwnnw yn unol â pharagraffau (1), (2), (3) a (4) os nad oes Bwrdd Iechyd Lleol, ar y dyddiad rhyddhau, yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd i'r unigolyn hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: