Rhan 2 —Cydgysylltwyr gofal
Dynodi'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol3
1
Os oes Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd9 i glaf perthnasol a bod awdurdod lleol hefyd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth o'r fath, yna mae darpariaethau'r rheoliad hwn yn gymwys.
2
Y Bwrdd Iechyd Lleol yw'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol i glaf perthnasol oni bai bod paragraffau (3) neu (4) yn gymwys.
3
Awdurdod lleol yw'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol i glaf perthnasol os yw'r claf hwnnw'n destun—
a
cais am warcheidiaeth a wnaed o dan adran 7 o Ddeddf 1983; neu
b
gorchymyn gwarcheidiaeth a wnaed o dan adran 37 o Ddeddf 1983.
4
Awdurdod lleol yw'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol i glaf perthnasol os yw'r claf hwnnw o dan ddeunaw oed a hefyd—
a
yn derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22(1) (dyletswydd gyffredinol awdurdod lleol o ran plant sy'n derbyn gofal ganddynt) o Ddeddf 1989;
b
yn blentyn perthnasol o fewn ystyr adran 23A (yr awdurdod cyfrifol a phlant perthnasol) o Ddeddf 1989;
c
yn gymwys i gael cyngor a chymorth o dan adran 24(1A) (personau sy'n gymwys i gael cyngor neu gymorth) neu adran 24(1B) o Ddeddf 1989; neu
ch
yn cael ei dderbyn i ysgol yn unol â datganiad o anghenion addysgol arbennig a wneir o dan adran 324 (datganiad o anghenion addysgol arbennig) o Deddf Addysg 199610 sy'n enwi'r ysgol.
Gofynion cymhwystra i gydgysylltwyr gofal4
1
Mae person yn gymwys i'w benodi'n gydgysylltydd gofal os yw'r person hwnnw—
a
yn cyflawni un neu ragor o'r gofynion proffesiynol yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn; a
b
wedi dangos er boddhad y darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol fod ganddo brofiad, sgiliau neu hyfforddiant priodol, neu gyfuniad priodol o brofiad, sgiliau a hyfforddiant.
2
Wrth benderfynu a yw person yn bodloni'r gofyniad penodi ym mharagraff (1)(b) rhaid rhoi sylw i safonau mewn unrhyw Godau Ymarfer a ddyroddir o dan adran 44 (codau ymarfer) o'r Mesur, ac unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dro i dro gan Weinidogion Cymru.