(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1

Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau ynghylch cydgysylltu gofal a chynllunio gofal a thriniaeth i gleifion sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd (o fewn ystyr Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”)). Maent hefyd yn cynnwys darpariaeth ynghylch dynodi darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol, a darpariaethau trosiannol i gleifion sydd eisoes mewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

2

Mae rheoliad 3 yn darparu ar gyfer dynodi darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol o dan amgylchiadau lle mae claf yn defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd sy'n cael eu darparu gan Fwrdd Iechyd Lleol a chan awdurdod lleol.

3

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch y gofynion ynglŷn â chymhwystra y mae'n rhaid eu bodloni cyn i berson gael ei benodi'n gydgysylltydd gofal. Mae'r gofynion proffesiynol y mae'n rhaid i berson eu bodloni wedi'u nodi yn Atodlen 1.

4

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys cynlluniau gofal a thriniaeth. Mae ffurf cynllun gofal a thriniaeth wedi'i nodi yn Atodlen 2, ac mae i gael ei gwblhau yn Gymraeg neu'n Saesneg, neu yn rhannol yn Gymraeg ac yn rhannol yn Saesneg.

5

Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch y personau y mae'n rhaid i'r cydgysylltydd gofal ymgynghori â nhw fel rhan o swyddogaethau'r cydgysylltydd gofal o baratoi cynlluniau gofal a thriniaeth, eu hadolygu a'u diwygio. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ynghylch personau y caniateir i'r cydgysylltydd gofal ymgynghori â nhw, a darpariaeth i farn y claf gael ei chymryd i ystyriaeth cyn i unrhyw ymgynghori ddigwydd o dan y rheoliad hwn.

6

Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer adolygu a diwygio cynlluniau gofal a thriniaeth. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth ynghylch pa mor aml y mae'n rhaid i gynllun gael ei adolygu ac, os oes angen hynny, ei ddiwygio, a phwy sy'n cael gwneud cais am adolygiad ac, os oes angen hynny, am ddiwygiad.

7

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch y personau y mae'n rhaid darparu copi iddyn nhw o gynllun gofal a thriniaeth claf ar ôl i'r cynllun hwnnw gael ei baratoi, ei adolygu neu ei ddiwygio. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ynghylch personau y caniateir darparu copïau o'r cynlluniau hyn iddyn nhw, i gopïau o gynlluniau gael eu cadw'n ôl neu i rannau yn unig o gynlluniau gael eu darparu, ac i farn y claf gael ei chymryd i ystyriaeth cyn i unrhyw gopïau o gynlluniau neu o rannau o gynlluniau gael eu darparu.

8

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch sut mae copïau o gynlluniau gofal a thriniaeth i gael eu darparu, gan ganiatáu i gyfryngau electronig ac anelectronig gael eu defnyddio i'w darparu.

9

Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth sydd i'w darparu i unigolyn pan gaiff ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

10

Mae rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth drosiannol i gleifion sydd eisoes mewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth i gleifion sydd heb gydgysylltydd gofal neu gynllun gofal a thriniaeth ar y dyddiad dod i rym.

11

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan y Tîm Deddfwriaeth Iechyd Meddwl, Yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.