- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau ynghylch cydgysylltu gofal a chynllunio gofal a thriniaeth i gleifion sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd (o fewn ystyr Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”)). Maent hefyd yn cynnwys darpariaeth ynghylch dynodi darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol, a darpariaethau trosiannol i gleifion sydd eisoes mewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
2. Mae rheoliad 3 yn darparu ar gyfer dynodi darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol o dan amgylchiadau lle mae claf yn defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd sy'n cael eu darparu gan Fwrdd Iechyd Lleol a chan awdurdod lleol.
3. Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch y gofynion ynglŷn â chymhwystra y mae'n rhaid eu bodloni cyn i berson gael ei benodi'n gydgysylltydd gofal. Mae'r gofynion proffesiynol y mae'n rhaid i berson eu bodloni wedi'u nodi yn Atodlen 1.
4. Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys cynlluniau gofal a thriniaeth. Mae ffurf cynllun gofal a thriniaeth wedi'i nodi yn Atodlen 2, ac mae i gael ei gwblhau yn Gymraeg neu'n Saesneg, neu yn rhannol yn Gymraeg ac yn rhannol yn Saesneg.
5. Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch y personau y mae'n rhaid i'r cydgysylltydd gofal ymgynghori â nhw fel rhan o swyddogaethau'r cydgysylltydd gofal o baratoi cynlluniau gofal a thriniaeth, eu hadolygu a'u diwygio. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ynghylch personau y caniateir i'r cydgysylltydd gofal ymgynghori â nhw, a darpariaeth i farn y claf gael ei chymryd i ystyriaeth cyn i unrhyw ymgynghori ddigwydd o dan y rheoliad hwn.
6. Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer adolygu a diwygio cynlluniau gofal a thriniaeth. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth ynghylch pa mor aml y mae'n rhaid i gynllun gael ei adolygu ac, os oes angen hynny, ei ddiwygio, a phwy sy'n cael gwneud cais am adolygiad ac, os oes angen hynny, am ddiwygiad.
7. Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch y personau y mae'n rhaid darparu copi iddyn nhw o gynllun gofal a thriniaeth claf ar ôl i'r cynllun hwnnw gael ei baratoi, ei adolygu neu ei ddiwygio. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ynghylch personau y caniateir darparu copïau o'r cynlluniau hyn iddyn nhw, i gopïau o gynlluniau gael eu cadw'n ôl neu i rannau yn unig o gynlluniau gael eu darparu, ac i farn y claf gael ei chymryd i ystyriaeth cyn i unrhyw gopïau o gynlluniau neu o rannau o gynlluniau gael eu darparu.
8. Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch sut mae copïau o gynlluniau gofal a thriniaeth i gael eu darparu, gan ganiatáu i gyfryngau electronig ac anelectronig gael eu defnyddio i'w darparu.
9. Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth sydd i'w darparu i unigolyn pan gaiff ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd.
10. Mae rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth drosiannol i gleifion sydd eisoes mewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth i gleifion sydd heb gydgysylltydd gofal neu gynllun gofal a thriniaeth ar y dyddiad dod i rym.
11. Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan y Tîm Deddfwriaeth Iechyd Meddwl, Yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: