(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rhoi effaith i'r gofyniad i sefydlu lleiniau clustogi ar hyd cyrsiau dŵr fel Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da (“CAAD”) gydag effaith o 1 Ionawr 2012. Mae CAADau yn rhan o'r gofynion trawsgydymffurfio y mae'n rhaid i ffermwyr eu bodloni er mwyn derbyn taliadau penodol a wneir o dan Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd (“UE”).
Mae'r gofyniad i sefydlu lleiniau clustogi yn rwymedigaeth yr UE sydd wedi ei chynnwys yn Erthygl 6 ac Atodiad III o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 (ar 19 Ionawr 2009 yn sefydlu rheolau cyffredin am gynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr, ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1290/2005, (EC) Rhif 247/2006, (EC) Rhif 378/2007 ac yn diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1782/2003).
Rhaid i'r lleiniau clustogi CAAD barchu, o fewn Parthau Perygl Nitradau a ddynodwyd yn unol ag Erthygl 3(2) o Gyfarwyddeb 91/676/EEC, a thu allan iddynt, o leiaf y gofynion mewn perthynas â'r amodau ar gyfer rhoi gwrtaith ar dir ger cyrsiau dŵr, y cyfeirir atynt ym mhwynt A.4 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 91/676/EEC i'w chymhwyso'n unol â rhaglenni gweithredu Aelod-wladwriaethau a sefydlwyd o dan Erthygl 5(4) o Gyfarwyddeb 91/676/EEC.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004. O.S 2004/3280 (Cy. 284) fel eu bod yn:
gwahardd taenu gwrtaith sydd wedi ei weithgynhyrchu o fewn 2 fetr i wyneb cyrsiau dŵr,
gwahardd taenu tail organig o fewn 10 metr i wyneb cyrsiau dŵr,
gwahardd taenu tail organig o fewn 50 o fetrau i dwll turio, pistyll neu ffynnon.
Mae pob un o'r gwaharddiadau hyn yn ddarostyngedig i eithriadau penodedig.
Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau i ddiweddaru'r cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol ar yr effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes, y sector gwirfoddol a'r sector cyhoeddus ar gael gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.