YR ATODLENArbedion a Darpariaethau Trosiannol Cyffredinol

Y Cylch Gwerthuso2

Os oes pennaeth, athro neu athrawes ysgol neu athro neu athrawes ddigyswllt wedi mynd rhan o'r ffordd drwy gylch gwerthuso o dan Reoliadau 2002 ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, yna (yn ddarostyngedig i baragraff 3) rhaid i'r cylch gwerthuso hwnnw barhau o dan ddarpariaethau Rheoliadau 2002 hyd nes y bydd cylch gwerthuso newydd yn dechrau o dan y Rheoliadau hyn.