RHAN IIGwerthuso Penaethiaid
Cylch gwerthuso newydd9
1
Os bydd pennaeth yn symud i swydd pennaeth mewn ysgol arall, bydd y cylch gwerthuso yn dechrau eto.
2
Pan ddaw athro neu athrawes ysgol (nad yw'n bennaeth) yn bennaeth (yn yr un ysgol ynteu mewn un arall) fel bod rheoliadau 7 i 19 yn gymwys i'r gwerthusiad, bydd amseriad y cylch gwerthuso yn cael ei benderfynu o'r newydd cyn gynted ag y bo'n ymarferol gan y corff llywodraethu o dan reoliad 8(1).
3
Pan fydd cylch gwerthuso pennaeth yn dechrau eto o dan baragraff (1), neu'n cael ei benderfynu o'r newydd o dan baragraff (2), caiff y corff llywodraethu benderfynu y bydd hyd cylch gwerthuso cyntaf y pennaeth yn ei swydd newydd yn gyfnod o lai na blwyddyn.