RHAN IIGwerthuso Penaethiaid
Y cylch gwerthuso8
1
Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, ac i reoliad 9, rhaid i'r corff llywodraethu benderfynu amseriad cylch gwerthuso pennaeth yr ysgol.
2
Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (3) a rheoliad 9(3) blwyddyn fydd hyd cylch gwerthuso a bydd hwnnw'n dechrau ar ôl 1 Medi a chyn 31 Rhagfyr oni bai bod yr awdurdod lleol a'r corff llywodraethu'n cytuno fel arall.
3
Yn achos cylch gwerthuso cyntaf pennaeth o dan y Rheoliadau hyn sydd yn ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff y corff llywodraethu benderfynu y bydd hyd y cylch gwerthuso hwnnw'n gyfnod heblaw blwyddyn ar yr amod nad yw'n dechrau yn gynharach na 1 Ionawr 2012 nac yn diweddu yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2012.
4
Pan fyddant wedi dechrau, bydd cylchoedd gwerthuso pob pennaeth yn barhaus.
5
Ni fydd penodi gwerthuswr newydd yn peri bod cylch gwerthuso pennaeth yn dechrau eto.