RHAN IIGwerthuso Penaethiaid

Penodi gwerthuswyr7

1

Rhaid i gorff llywodraethu ysgol benodi yn werthuswyr pennaeth o leiaf ddau lywodraethwr, y mae'n rhaid i un ohonynt o leiaf fod yn llywodraethwr sefydledig i'r ysgol os yw'n ysgol sydd â chymeriad crefyddol neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir sydd heb gymeriad crefyddol.

2

Caiff y corff llywodraethu ar unrhyw adeg benodi gwerthuswr newydd yn lle unrhyw werthuswr presennol a benodwyd o dan baragraff (1).

3

Ni chaniateir penodi llywodraethwr sy'n athro neu'n athrawes neu'n aelod arall o'r staff yn yr ysgol yn werthuswr i'r pennaeth.

4

Caiff yr awdurdod lleol benodi un neu ddau o werthuswyr mewn perthynas â gwerthuso pennaeth.

5

Caiff y corff llywodraethu wneud cais ar unrhyw adeg i'r awdurdod lleol am benodi gwerthuswr newydd yn lle gwerthuswr presennol a benodwyd gan yr awdurdod lleol ond rhaid i benodiad o'r fath fod yn ôl disgresiwn yr awdurdod lleol a rhaid cael esboniad ysgrifenedig ar y rhesymau dros wrthodiad i gyd-fynd ag unrhyw wrthodiad.

6

Os pennaeth ysgol sydd â chymeriad crefyddol sy'n cael ei werthuso, caiff yr Awdurdod Esgobaeth benodi gwerthuswr i'r pennaeth.