- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Cyn i'r cylch gwerthuso ddechrau rhaid i'r corff llywodraethu, yr awdurdod lleol a'r pennaeth sefydlu a chynnal Polisi Rheoli Perfformiad i'r Ysgol.
(2) Rhaid i'r corff llywodraethu, yr awdurdod lleol a'r pennaeth adolygu Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol, ac os penderfynant wneud hynny, ei ddiwygio, a hynny'n flynyddol o leiaf.
(3) Caiff y corff llywodraethu a'r awdurdod lleol ddirprwyo'r gwaith o ffurfio drafft o Bolisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol, neu ddrafft o ddiwygiadau iddo, i bennaeth yr ysgol, er mwyn iddynt gael eu hystyried.
(4) Os na ellir cytuno rhaid i'r awdurdod lleol bennu Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol.
(5) Cyn sefydlu neu ddiwygio Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol, rhaid i'r corff llywodraethu (neu, os y cyfarwyddir ef gan y corff llywodraethu, y pennaeth) ymgynghori ag athrawon yr ysgol yn yr ysgol ynglŷn â chynnwys Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol, neu'r newidiadau a gynigir iddo.
(6) Rhaid i'r corff llywodraethu a'r pennaeth roi Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol ar waith.
(7) O leiaf unwaith yn ystod pob blwyddyn ysgol rhaid i'r pennaeth gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r corff llywodraethu ynghylch sut mae Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol yn gweithredu o dan y Rheoliadau hyn, pa mor effeithiol yw gweithdrefnau gwerthuso'r ysgol, ac anghenion athrawon yr ysgol a'r pennaeth o ran hyfforddi a datblygu.
(8) Rhaid i'r corff llywodraethu sicrhau bod copi o Bolisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol ar gael i'w archwilio yn yr ysgol ar ddiwrnodau ysgol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: