RHAN IVGwerthuso Athrawon Digyswllt
Gwybodaeth o ddatganiadau gwerthuso45
1
Caniateir i wybodaeth berthnasol o ddatganiadau gwerthuso gael ei chymryd i ystyriaeth gan awdurdod, Prif Swyddogion Addysg neu unrhyw swyddogion neu gynghorwyr a ddynodir yn benodol gan Brif Swyddog Addysg o dan reoliad 44(2)(c) wrth iddynt wneud penderfyniadau, ac wrth iddynt gynghori'r rhai sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, ynghylch dyrchafu, diswyddo neu ddisgyblu athrawon digyswllt neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl.
2
Ni fydd gweithdrefnau gwerthuso mewn perthynas ag athro neu athrawes ddigyswllt fel y'u nodir yn y Rheoliadau hyn yn ffurfio unrhyw gamau y mae'n rhaid eu cymryd mewn gweithdrefnau disgyblu neu ddiswyddo a ddygir yn erbyn athro neu athrawes ddigyswllt.