RHAN IVGwerthuso Athrawon Digyswllt

Darparu datganiadau gwerthuso a'u cadw44

1

Rhaid i'r gwerthuswr roi copi o'r datganiad gwerthuso—

a

i'r pennaeth ymhob ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu o'i hamser gwaith yn rheolaidd; a

b

i'r awdurdod.

2

Caiff y personau canlynol wneud cais am gopi o'r datganiad gwerthuso a rhaid i'r awdurdod, os gwneir cais o'r fath, drefnu bod copi o'r datganiad gwerthuso ar gael i'r person hwnnw—

a

y gwerthuswr;

b

unrhyw swyddog apêl cyn pen pum diwrnod ysgol ar ôl i'r awdurdod gael hysbysiad apêl o dan reoliad 43, y mae'n rhaid rhoi copi iddo hefyd o'r datganiad amcanion; ac

c

y Prif Swyddog Addysg neu unrhyw swyddog neu gynghorydd a ddynodir yn benodol gan y Prif Swyddog Addysg i fod yn gyfrifol am gynghori am ddyrchafiad athrawon digyswllt, neu am ddefnyddio unrhyw ddisgresiwn ynghylch cyflog, neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny.

3

Os yw'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn gymwys ar gyfer datblygiad cyflog o dan y Ddogfen, rhaid i'r gwerthuswr roi argymhelliad ynghylch datblygiad cyflog i'r awdurdod, gan roi sylw i ddatganiad gwerthuso'r athro neu'r athrawes ddigyswllt.

4

Rhaid i'r awdurdod roi copi o'r atodiad i'r datganiad gwerthuso y cyfeirir ato yn rheoliad 42(4) i'r person neu'r personau sy'n gyfrifol am gynllunio hyfforddiant a datblygiad athrawon ysgol yn unrhyw ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu o'i hamser gwaith yn rheolaidd.

5

Rhaid i'r awdurdod drefnu bod datganiad amcanion cyfredol athro neu athrawes ddigyswllt ar gael i werthuswr newydd a benodir heblaw ar ddechrau cylch gwerthuso.

6

Rhaid i ddatganiad gwerthuso athro neu athrawes ddigyswllt gael ei gadw gan yr awdurdod am o leiaf dair blynedd ar ôl i'r datganiad gwerthuso nesaf gael ei gwblhau.