RHAN IVGwerthuso Athrawon Digyswllt

Apelio43

1

Mae gan athro neu athrawes ddigyswllt hawl i apelio yn erbyn gwerthusiad o dan y Rheoliadau hyn cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o'r datganiad gwerthuso o dan reoliad 42(6).

2

Os athro neu athrawes mewn ysgol yw'r gwerthuswr bydd darpariaethau rheoliad 30(2) i (12) yn gymwys, ac eithrio y bydd cyfeiriadau yn y paragraffau hynny at ddatganiad gwerthuso yn gyfeiriadau at ddatganiad a baratoir o dan reoliad 42(4) gan gynnwys at ddibenion rheoliadau 31 a 32 unrhyw sylwadau a ychwanegwyd gan swyddog apêl o dan baragraff (6)(a) o reoliad 30.

3

Os yr awdurdod yw'r gwerthuswr gwneir unrhyw apêl yn ysgrifenedig i'r awdurdod yn unol â'r gweithdrefnau apelio sy'n gymwys i'r holl staff ac eithrio fel y gall fod yn anghyson â'r rheoliad hwn.

4

Rhaid i'r swyddog apêl gynnal a chwblhau adolygiad o'r gwerthusiad cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael y datganiad gwerthuso o dan reoliad 44(2)(b) a rhaid iddo gymryd unrhyw sylwadau a wneir gan yr athro neu'r athrawes ddigyswllt i ystyriaeth.

5

Caiff y swyddog apêl—

a

gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn sefyll gyda sylwadau'r swyddog apêl neu hebddynt; neu

b

diwygio'r datganiad gwerthuso gyda chytundeb y gwerthuswr; neu

c

gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn cael ei ddileu a gorchymyn gwerthusiad newydd.

6

Pan fydd gwerthusiad newydd yn cael ei orchymyn o dan baragraff (5)(c) rhaid penodi gwerthuswr newydd yn unol â rheoliad 36 a rhaid i'r swyddog apêl benderfynu pa weithdrefnau gwerthuso y mae'n rhaid eu hailadrodd.

7

Os yw'n ymddangos i'r swyddog apêl nad oes athro neu athrawes ysgol mewn ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio prif ran ei amser gwaith neu ei hamser gwaith sy'n addas i fod yn werthuswr newydd y gellir ei benodi ar gyfer yr athro neu'r athrawes ddigyswllt, rhaid i'r swyddog apêl benodi fel gwerthuswr newydd ar gyfer yr athro neu'r athrawes ddigyswllt aelod o gorff llywodraethu'r ysgol honno (heblaw llywodraethwr sy'n athro neu'n athrawes neu'n aelod arall o staff) neu unrhyw berson arall sy'n addas i reoli ac i adolygu perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt.

8

Rhaid cwblhau pob gweithdrefn werthuso y penderfynir ei hailadrodd o dan baragraff (6) cyn pen 15 diwrnod ysgol ar ôl dyddiad gorchymyn y swyddog apêl o dan baragraff (5)(c).

9

Ni chaniateir i'r swyddog apêl—

a

penderfynu bod amcanion newydd i gael eu cytuno neu eu pennu; na

b

penderfynu bod yr amcanion y cytunwyd arnynt neu a bennwyd o dan reoliad 39(1) i gael eu diwygio.

10

Mae'r cyfeiriadau yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 44 a 45 at ddatganiad gwerthuso yn gyfeiriadau at ddatganiad a baratoir o dan reoliad 42(4), gan gynnwys, yn achos rheoliadau 44 a 45, unrhyw sylwadau a ychwanegir gan swyddog apêl o dan baragraff (5)(a).