RHAN IVGwerthuso Athrawon Digyswllt
Yr adolygiad gwerthuso a'r datganiad gwerthuso42
1
Ar ddiwedd y cylch gwerthuso neu yn agos i ddiwedd y cylch gwerthuso rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt gynnal adolygiad gwerthuso, er mwyn—
a
asesu i ba raddau y mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt wedi bodloni'r amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion fel y'i nodir yn rheoliad 39(1), gan gymryd i ystyriaeth y cofnod y mae'n rhaid i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt ei gadw yn unol â rheoliad 39(7);
b
penderfynu a oes perfformiad cyffredinol llwyddiannus wedi bod o'i ystyried yn erbyn safonau proffesiynol athrawon ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro; ac
c
nodi'r angen am gymorth, hyfforddiant neu ddatblygiad ychwanegol a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny, gan gymryd i ystyriaeth hefyd y cofnod a ddisgrifir yn rheoliad 39(7).
2
Bydd y dyddiad y mae adolygiad gwerthuso i gael ei gynnal yn cael ei benderfynu gan y gwerthuswr, ond rhaid rhoi o leiaf 10 diwrnod ysgol o rybudd (mewn ysgrifen) i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt am y dyddiad hwnnw.
3
O leiaf pum diwrnod ysgol cyn yr adolygiad gwerthuso, rhaid i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt gyflwyno i'r gwerthuswr y cofnod a gadwyd o dan reoliad 39(7) a rhaid i'r cofnod gael ei ystyried yn yr adolygiad gwerthuso.
4
Cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl pob adolygiad gwerthuso, rhaid i'r gwerthuswr baratoi datganiad ysgrifenedig yn cofnodi'r prif bwyntiau a wnaed gan y gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn yr adolygiad a'r casgliadau y daethpwyd iddynt, a rhaid cofnodi mewn atodiad i'r datganiad (sef atodiad a fydd yn rhan o'r datganiad) yr anghenion hyfforddi a datblygu a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny a nodwyd yn yr adolygiad.
5
Caniateir i adolygiad gwerthuso o dan baragraff (1) gael ei gyfuno â chyfarfod o dan reoliad 39 mewn perthynas â'r cylch gwerthuso canlynol.
6
Rhaid i'r gwerthuswr roi copi o'r datganiad a baratoir o dan baragraff (4) i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl yr adolygiad gwerthuso.
7
Caiff yr athro neu'r athrawes ddigyswllt, cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o'r datganiad hwnnw, ychwanegu sylwadau ysgrifenedig ato, a bydd y sylwadau hynny yn rhan o'r datganiad gwerthuso.
8
Os nad yr awdurdod yw'r gwerthuswr, rhaid i'r gwerthuswr anfon copi o'r datganiad gwerthuso i'r awdurdod ac at bennaeth unrhyw ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu o'i hamser gwaith yn rheolaidd.
9
Os yr awdurdod yw'r gwerthuswr, rhaid i'r awdurdod anfon copi o'r datganiad gwerthuso at bennaeth unrhyw ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu o'i hamser gwaith yn rheolaidd.