RHAN IVGwerthuso Athrawon Digyswllt
Monitro cynnydd41
1
Rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt mewn cyfarfod a gynhelir o dan reoliad 39 geisio cytuno ar y gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt yn erbyn yr amcanion y cytunir arnynt o dan reoliad 39(1) neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan reoliad 39(4).
2
Os na chytunir ar weithdrefnau o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswr nodi'n ysgrifenedig y gweithdrefnau hynny ar gyfer monitro perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt y mae'n credu eu bod yn briodol.
3
Rhaid i'r gweithdrefnau p'un a ydynt wedi'u cytuno o dan baragraff (1) ynteu wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2) gynnwys:
a
gofyniad bod y gwerthuswr wrth werthuso'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn arsylwi ar yr athro neu'r athrawes ddigyswllt yn addysgu o leiaf unwaith yn ystod y cylch gwerthuso;
b
gofyniad bod y gwerthuswr yn ceisio gwybodaeth gan y rhai sydd â gwybodaeth broffesiynol berthnasol am yr athro neu'r athrawes ddigyswllt mewn mannau eraill lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu ei hamser gwaith yn rheolaidd.
4
Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (5) ni chaiff gwerthuswr gael gwybodaeth, yn ysgrifenedig ynteu ar lafar, sy'n berthnasol i berfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt gan neb arall oni bai bod yr athro neu'r athrawes ddigyswllt yn cydsynio neu fod yr wybodaeth wedi'i chael yn unol â'r gweithdrefnau y cytunir arnynt o dan baragraff (1), neu os nad oes gweithdrefnau wedi'u cytuno, y gweithdrefnau sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2).
5
Nid yw paragraff (4) yn gymwys i unrhyw wybodaeth y mae gan werthuswr hawl i'w chael o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn.