RHAN IVGwerthuso Athrawon Digyswllt

Diwygio amcanion40

1

Caniateir i amcanion athro neu athrawes ddigyswllt gael eu diwygio gan y gwerthuswr ar unrhyw adeg yn ystod y cylch gwerthuso.

2

Os yw amcanion athro neu athrawes ddigyswllt yn cael eu diwygio o dan baragraff (1)—

a

rhaid newid y datganiad amcanion i ddangos y diwygiadau;

b

caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at amcanion yr athro neu'r athrawes ddigyswllt eu darllen fel cyfeiriadau at yr amcanion diwygiedig; ac

c

caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddatganiad amcanion yr athro neu'r athrawes ddigyswllt eu darllen fel cyfeiriadau at y datganiad amcanion diwygiedig.