RHAN IVGwerthuso Athrawon Digyswllt
Gweithdrefnau gwerthuso38
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i reoliadau 39 i 43 rhaid i'r awdurdod benderfynu ar y gweithdrefnau ar gyfer gwerthuso athrawon digyswllt.
2
Os yw rhai o ddyletswyddau'r awdurdod neu'r cyfan ohonynt mewn perthynas ag athro neu athrawes ddigyswllt wedi'u dirprwyo i athro neu athrawes yn yr ysgol yn unol â rheoliad 36(2) yna yn ddarostyngedig i reoliadau 39 i 43, rhaid i'r gweithdrefnau ar gyfer gwerthuso'r athro digyswllt hwnnw neu'r athrawes ddigyswllt honno fod yn rhai a benderfynir gan gorff llywodraethu'r ysgol yn unol â rheoliad 25.