RHAN IVGwerthuso Athrawon Digyswllt

Y cylch gwerthuso37

1

Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod benderfynu amseriad cylch gwerthuso pob athro ac athrawes ddigyswllt a gyflogir ganddo.

2

Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraffau (3), (4) a (5) blwyddyn fydd hyd cylch gwerthuso.

3

Yn achos cylch gwerthuso cyntaf athro neu athrawes ddigyswllt o dan y Rheoliadau hyn sydd yn ei swydd ar y dyddiad perthnasol, caiff yr awdurdod benderfynu y bydd hyd y cylch gwerthuso yn gyfnod heblaw blwyddyn.

4

Yn achos cylch gwerthuso cyntaf athro neu athrawes ddigyswllt o dan y Rheoliadau hyn sydd heb fod yn ei swydd ar y dyddiad perthnasol, caiff yr awdurdod benderfynu y bydd hyd y cylch gwerthuso cyntaf yn gyfnod o lai na blwyddyn.

5

Yn achos athro neu athrawes ddigyswllt a gyflogir o dan gontract cyflogaeth am gyfnod penodol o lai na blwyddyn, rhaid i'r perfformiad gael ei reoli drwy gydol cyfnod y contract a chael ei adolygu ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

6

Rhaid i'r awdurdod gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod cylch gwerthuso cyntaf pob athro ac athrawes ddigyswllt sydd yn ei swydd ar y dyddiad perthnasol yn dechrau erbyn 31 Rhagfyr 2012 fan bellaf.

7

Pan fyddant wedi dechrau, bydd cylchoedd gwerthuso pob athro ac athrawes ddigyswllt yn barhaus.

8

Ni fydd penodi gwerthuswr newydd yn peri bod cylch gwerthuso athro neu athrawes ddigyswllt yn dechrau eto ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (9).

9

Pan fydd athro neu athrawes ddigyswllt yn trosglwyddo i swydd newydd yn yr awdurdod ran o'r ffordd drwy gylch gwerthuso, rhaid i'r awdurdod benderfynu a fydd y cylch yn dechrau eto ac os felly a ddylid penodi gwerthuswr newydd.