RHAN IVGwerthuso Athrawon Digyswllt
Penodi gwerthuswyr ar gyfer athrawon digyswllt36
1
Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol yr awdurdod yw'r gwerthuswr ar gyfer pob athro neu athrawes ddigyswllt.
2
Caiff yr awdurdod ddirprwyo rhai neu'r cyfan o'r dyletswyddau a osodir ar werthuswr i athro neu athrawes ysgol yn yr ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio prif ran ei amser gwaith neu ei hamser gwaith, neu i unrhyw berson arall y mae'r awdurdod yn credu ei fod yn y sefyllfa orau i reoli ac i adolygu perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt.
3
Caiff yr awdurdod benodi gwerthuswr newydd yn lle gwerthuswr presennol ar unrhyw adeg neu caiff gyflawni'r dyletswyddau hynny ei hun.