RHAN IVGwerthuso Athrawon Digyswllt
Y gofyniad ar yr awdurdod i gynhyrchu polisi rheoli perfformiad35
1
Rhaid i'r awdurdod gael polisi ysgrifenedig (“y polisi rheoli perfformiad”) sy'n nodi sut y mae gwerthuso athrawon digyswllt i gael ei roi ar waith.
2
Rhaid i'r awdurdod adolygu'r polisi rheoli perfformiad bob blwyddyn ysgol.
3
Yn sgil adolygiad o'r fath rhaid i'r awdurdod, os yw'n gweld yn dda, ddiwygio'r polisi rheoli perfformiad.
4
Cyn sefydlu neu ddiwygio'r polisi rheoli perfformiad rhaid i'r awdurdod ymgynghori â phob un o'i athrawon digyswllt ynghylch ffurfio'r polisi rheoli perfformiad neu ei ddiwygio.
5
Rhaid i'r awdurdod roi'r polisi rheoli perfformiad ar waith.
6
Rhaid i'r awdurdod drefnu bod copi o'r polisi rheoli perfformiad ar gael i'w archwilio ar unrhyw adeg resymol gan y canlynol:
a
unrhyw athro neu athrawes ddigyswllt;
b
unrhyw berson sy'n ymwneud ag arolygu sut y mae'r system gwerthuso athrawon digyswllt yn gweithio;
c
unrhyw werthuswr a benodir yn unol â'r Rheoliadau hyn.