RHAN IIIGwerthuso Athrawon Ysgol heblaw Penaethiaid
Gwybodaeth o ddatganiadau gwerthuso32
1
Caniateir i wybodaeth berthnasol o ddatganiadau gwerthuso gael ei chymryd i ystyriaeth gan benaethiaid, cyrff llywodraethu ysgolion (gan gynnwys pwyllgorau cyrff llywodraethu), Prif Swyddogion Addysg neu unrhyw swyddogion neu gynghorwyr a ddynodir yn benodol gan Brif Swyddog Addysg o dan reoliad 31(2)(ch) wrth iddynt wneud penderfyniadau, ac wrth iddynt gynghori'r rhai sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, ynghylch dyrchafu, diswyddo neu ddisgyblu athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl.
2
Ni fydd gweithdrefnau gwerthuso mewn perthynas ag athro neu athrawes ysgol fel y'u disgrifir yn y Rheoliadau hyn yn ffurfio unrhyw gamau y mae'n rhaid eu cymryd mewn gweithdrefnau disgyblu neu ddiswyddo a ddygir yn erbyn yr athro neu'r athrawes ysgol.