RHAN IIIGwerthuso Athrawon Ysgol heblaw Penaethiaid
Darparu datganiadau gwerthuso a'u cadw31
1
Rhaid i'r gwerthuswr roi copi o'r datganiad gwerthuso i'r pennaeth.
2
Caiff y personau canlynol wneud cais am gopi o'r datganiad gwerthuso a rhaid i'r pennaeth, os gwneir cais o'r fath, drefnu bod copi o'r datganiad gwerthuso ar gael i'r person hwnnw—
a
y gwerthuswr;
b
unrhyw swyddog apêl cyn pen pum diwrnod ysgol ar ôl i'r corff llywodraethu gael hysbysiad ynglŷn ag apêl o dan reoliad 30(2), y mae'n rhaid rhoi copi iddo hefyd o'r datganiad amcanion;
c
unrhyw lywodraethwyr sy'n gyfrifol am gynghori ynghylch dyrchafu athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny; ac
ch
yn achos athro neu athrawes ysgol a gyflogir mewn ysgol nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig (o fewn ystyr Pennod IV o Ran II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998) y Prif Swyddog Addysg neu unrhyw swyddog neu gynghorydd a ddynodir yn benodol gan y Prif Swyddog Addysg i fod yn gyfrifol am gynghori ynghylch dyrchafu athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny.
3
Os yw'r athro neu'r athrawes ysgol yn gymwys ar gyfer datblygiad cyflog o dan y Ddogfen, rhaid i'r gwerthuswr roi argymhelliad ynghylch datblygiad cyflog i'r pennaeth, gan roi sylw i ddatganiad gwerthuso'r athro neu'r athrawes ysgol.
4
Rhaid i'r pennaeth roi copi o'r atodiad i'r datganiad gwerthuso y cyfeirir ato yn rheoliad 29(4) i'r person neu'r personau sy'n gyfrifol am gynllunio hyfforddiant a datblygiad yr athrawon ysgol yn yr ysgol.
5
Rhaid i'r pennaeth drefnu bod copi o ddatganiad amcanion cyfredol athro neu athrawes ysgol ar gael i werthuswr newydd a benodir heblaw ar ddechrau cylch gwerthuso.
6
Rhaid i ddatganiad gwerthuso athro neu athrawes ysgol gael ei gadw gan y pennaeth am o leiaf dair blynedd ar ôl i'r datganiad gwerthuso nesaf gael ei gwblhau.