- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
31.—(1) Rhaid i'r gwerthuswr roi copi o'r datganiad gwerthuso i'r pennaeth.
(2) Caiff y personau canlynol wneud cais am gopi o'r datganiad gwerthuso a rhaid i'r pennaeth, os gwneir cais o'r fath, drefnu bod copi o'r datganiad gwerthuso ar gael i'r person hwnnw—
(a)y gwerthuswr;
(b)unrhyw swyddog apêl cyn pen pum diwrnod ysgol ar ôl i'r corff llywodraethu gael hysbysiad ynglŷn ag apêl o dan reoliad 30(2), y mae'n rhaid rhoi copi iddo hefyd o'r datganiad amcanion;
(c)unrhyw lywodraethwyr sy'n gyfrifol am gynghori ynghylch dyrchafu athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny; ac
(ch)yn achos athro neu athrawes ysgol a gyflogir mewn ysgol nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig (o fewn ystyr Pennod IV o Ran II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998) y Prif Swyddog Addysg neu unrhyw swyddog neu gynghorydd a ddynodir yn benodol gan y Prif Swyddog Addysg i fod yn gyfrifol am gynghori ynghylch dyrchafu athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny.
(3) Os yw'r athro neu'r athrawes ysgol yn gymwys ar gyfer datblygiad cyflog o dan y Ddogfen, rhaid i'r gwerthuswr roi argymhelliad ynghylch datblygiad cyflog i'r pennaeth, gan roi sylw i ddatganiad gwerthuso'r athro neu'r athrawes ysgol.
(4) Rhaid i'r pennaeth roi copi o'r atodiad i'r datganiad gwerthuso y cyfeirir ato yn rheoliad 29(4) i'r person neu'r personau sy'n gyfrifol am gynllunio hyfforddiant a datblygiad yr athrawon ysgol yn yr ysgol.
(5) Rhaid i'r pennaeth drefnu bod copi o ddatganiad amcanion cyfredol athro neu athrawes ysgol ar gael i werthuswr newydd a benodir heblaw ar ddechrau cylch gwerthuso.
(6) Rhaid i ddatganiad gwerthuso athro neu athrawes ysgol gael ei gadw gan y pennaeth am o leiaf dair blynedd ar ôl i'r datganiad gwerthuso nesaf gael ei gwblhau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: