RHAN IIIGwerthuso Athrawon Ysgol heblaw Penaethiaid

Apelio30

1

Mae gan athro neu athrawes ysgol hawl i apelio yn erbyn gwerthusiad o dan y Rheoliadau hyn cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o ddatganiad gwerthuso o dan reoliad 29(6).

2

Rhaid i apêl gael ei gwneud yn ysgrifenedig i'r corff llywodraethu.

3

Y pennaeth fydd y swyddog apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath, ac eithrio os y pennaeth yw'r gwerthuswr, a'r pryd hynny cadeirydd y corff llywodraethu fydd y swyddog apêl.

4

Os cadeirydd y corff llywodraethu yw'r swyddog apêl, rhaid i'r awdurdod lleol benodi cynrychiolydd i gynorthwyo'r swyddog apêl.

5

Rhaid i'r swyddog apêl gynnal a chwblhau adolygiad o'r gwerthusiad cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael y datganiad gwerthuso o dan reoliad 31(2)(b), a rhaid iddo gymryd unrhyw sylwadau a wneir gan yr athro neu'r athrawes ysgol i ystyriaeth.

6

Caiff y swyddog apêl—

a

gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn sefyll gyda sylwadau'r swyddog apêl neu hebddynt; neu

b

diwygio'r datganiad gwerthuso gyda chytundeb y gwerthuswr; neu

c

gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn cael ei ddileu a gorchymyn gwerthusiad newydd.

7

Pan fydd gwerthusiad newydd yn cael ei orchymyn o dan baragraff (6)(c) rhaid penodi gwerthuswr newydd yn unol â rheoliad 21 a rhaid i'r swyddog apêl benderfynu pa weithdrefnau gwerthuso y mae'n rhaid eu hailadrodd.

8

Os yw'n ymddangos i'r swyddog apêl nad oes gwerthuswr addas newydd a all gael ei benodi i'r athro neu'r athrawes ysgol o dan reoliad 21, rhaid i'r swyddog apêl benodi aelod o gorff llywodraethu'r ysgol yn werthuswr newydd i'r athro neu'r athrawes ysgol.

9

Ni chaniateir penodi llywodraethwr sy'n athro neu'n athrawes neu'n aelod arall o staff yr ysgol yn werthuswr i athro neu athrawes ysgol o dan baragraff (8).

10

Rhaid cwblhau pob gweithdrefn werthuso y penderfynir ei hailadrodd o dan baragraff (7) cyn pen 15 diwrnod ysgol ar ôl dyddiad gorchymyn y swyddog apêl o dan baragraff (6)(c).

11

Ni chaniateir i'r swyddog apêl—

a

penderfynu bod amcanion newydd i gael eu cytuno neu eu pennu yn unol â rheoliad 26; na

b

penderfynu bod yr amcanion y cytunwyd arnynt neu a bennwyd o dan reoliad 26 i gael eu diwygio.

12

Mae'r cyfeiriadau yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 31 a 32 at ddatganiad gwerthuso yn gyfeiriadau at ddatganiad a baratoir o dan reoliad 29(4), gan gynnwys, yn achos rheoliadau 31 a 32, unrhyw sylwadau a ychwanegir gan swyddog apêl o dan baragraff (6)(a).