RHAN IIIGwerthuso Athrawon Ysgol heblaw Penaethiaid
Yr adolygiad gwerthuso a'r datganiad gwerthuso29
1
Ar ddiwedd y cylch gwerthuso neu yn agos i ddiwedd y cylch gwerthuso rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol gynnal adolygiad gwerthuso, er mwyn—
a
asesu i ba raddau y mae'r athro neu'r athrawes ysgol wedi bodloni'r amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion fel y'i nodir yn rheoliad 26(1), gan gymryd i ystyriaeth y cofnod y mae'n rhaid i'r athro neu'r athrawes ysgol ei gadw yn unol â rheoliad 26(7);
b
penderfynu a oes perfformiad cyffredinol llwyddiannus wedi bod o'i ystyried yn erbyn safonau proffesiynol athrawon ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro; ac
c
nodi'r angen am gymorth, hyfforddiant neu ddatblygiad ychwanegol a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny, gan gymryd i ystyriaeth hefyd y cofnod a ddisgrifir yn rheoliad 26(7).
2
Bydd y dyddiad y mae adolygiad gwerthuso i gael ei gynnal yn cael ei benderfynu gan y gwerthuswr, ond rhaid rhoi o leiaf 10 diwrnod ysgol o rybudd (mewn ysgrifen) i'r athro neu'r athrawes ysgol am y dyddiad hwnnw.
3
O leiaf pum diwrnod ysgol cyn yr adolygiad gwerthuso, rhaid i'r athro neu'r athrawes ysgol gyflwyno i'r gwerthuswr y cofnod a gadwyd o dan reoliad 26(7) a rhaid i'r cofnod gael ei ystyried yn yr adolygiad gwerthuso.
4
Cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl pob adolygiad gwerthuso rhaid i'r gwerthuswr baratoi datganiad ysgrifenedig yn cofnodi'r prif bwyntiau a wnaed gan y gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol yn yr adolygiad a'r casgliadau y daethpwyd iddynt, a rhaid cofnodi mewn atodiad i'r datganiad (sef atodiad a fydd yn rhan o'r datganiad) yr anghenion hyfforddi a datblygu a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny a nodwyd yn yr adolygiad.
5
Caniateir i'r adolygiad gwerthuso o dan baragraff (1) gael ei gyfuno â chyfarfod o dan reoliad 26 mewn perthynas â'r cylch gwerthuso canlynol.
6
Rhaid i'r gwerthuswr roi copi o'r datganiad a baratoir o dan baragraff (4) i'r athro neu'r athrawes ysgol cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl yr adolygiad gwerthuso.
7
Caiff yr athro neu'r athrawes ysgol, cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o'r datganiad hwnnw, ychwanegu sylwadau ysgrifenedig ato, a bydd y sylwadau hynny yn rhan o'r datganiad a baratoir o dan y paragraff hwnnw.