RHAN IIIGwerthuso Athrawon Ysgol heblaw Penaethiaid
Monitro cynnydd28
1
Rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol mewn cyfarfod a gynhelir o dan reoliad 26(1) geisio cytuno ar y gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad yr athro neu'r athrawes ysgol yn erbyn yr amcanion y cytunir arnynt o dan reoliad 26(1) neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan reoliad 26(5).
2
Os na chytunir ar weithdrefnau o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswr nodi'n ysgrifenedig unrhyw weithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad yr athro neu'r athrawes ysgol y mae'n credu eu bod yn briodol.
3
Rhaid i'r gweithdrefnau y cytunir arnynt o dan baragraff (1), neu lle nad oes gweithdrefnau wedi'u cytuno, y gweithdrefnau a nodwyd yn ysgrifenedig o dan baragraff (2) gynnwys gofyniad bod rhaid i'r gwerthuswr wrth iddo werthuso athro neu athrawes ysgol arsylwi ar yr athro neu'r athrawes ysgol yn addysgu o leiaf unwaith yn ystod y cylch gwerthuso.
4
Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ni chaniateir i werthuswr gael gwybodaeth, yn ysgrifenedig ynteu ar lafar, sy'n berthnasol i berfformiad yr athro neu'r athrawes ysgol gan neb arall oni bai bod yr athro neu'r athrawes ysgol yn cydsynio neu fod yr wybodaeth wedi'i chael yn unol â'r gweithdrefnau y cytunir arnynt o dan baragraff (1) neu os nad oes gweithdrefnau wedi'u cytuno, y gweithdrefnau sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2).
5
Nid yw paragraff (4) yn gymwys i unrhyw wybodaeth y mae gan werthuswr hawl i'w chael o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn.