RHAN IIIGwerthuso Athrawon Ysgol heblaw Penaethiaid

Diwygio amcanion27

1

Caniateir i amcanion athro neu athrawes ysgol gael eu diwygio gan y gwerthuswr unrhyw bryd yn ystod y cylch gwerthuso.

2

Os yw amcanion athro neu athrawes ysgol yn cael eu diwygio o dan baragraff (1)—

a

rhaid newid y datganiad amcanion i ddangos yr amcan diwygiedig, dyddiad y diwygiad a'r rheswm dros y diwygiad;

b

caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at amcanion yr athro neu'r athrawes ysgol eu darllen fel cyfeiriadau at yr amcanion diwygiedig; ac

c

caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddatganiad amcanion yr athro neu'r athrawes ysgol eu darllen fel cyfeiriadau at y datganiad amcanion diwygiedig.