RHAN IIIGwerthuso Athrawon Ysgol heblaw Penaethiaid

Cylch gwerthuso newydd23

1

Os bydd athro neu athrawes ysgol yn symud i swydd athro neu athrawes ysgol mewn ysgol arall, bydd y cylch gwerthuso yn dechrau eto.

2

Os bydd athro neu athrawes ysgol yn symud i swydd newydd fel athro neu athrawes ysgol yn yr un ysgol, caiff y pennaeth benderfynu y bydd y cylch gwerthuso yn dechrau eto.

3

Pan fydd cylch gwerthuso athro neu athrawes ysgol yn dechrau eto o dan baragraff (1) neu (2), caiff y pennaeth benderfynu y bydd hyd cylch gwerthuso cyntaf yr athro neu'r athrawes ysgol yn y swydd newydd yn gyfnod o lai na blwyddyn.