RHAN IIIGwerthuso Athrawon Ysgol heblaw Penaethiaid

Y cylch gwerthuso22

1

Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, ac i reoliad 23, rhaid i'r pennaeth benderfynu amseriad cylch gwerthuso pob athro ac athrawes ysgol yn yr ysgol.

2

Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraffau (3), (4) a (5) a rheoliad 23(3), blwyddyn fydd hyd cylch gwerthuso.

3

Yn achos athro neu athrawes ysgol a gyflogir o dan gontract cyflogaeth am gyfnod penodol o lai na blwyddyn, hyd y cyfnod penodol yw hyd y cylch gwerthuso.

4

Yn achos cylch gwerthuso cyntaf athro neu athrawes ysgol o dan y Rheoliadau hyn sydd yn ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff y pennaeth benderfynu y bydd hyd y cylch gwerthuso yn gyfnod heblaw blwyddyn ar yr amod nad yw'n dod i ben yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2012.

5

Yn achos cylch gwerthuso cyntaf athro neu athrawes ysgol o dan y Rheoliadau hyn nad yw yn ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff y pennaeth benderfynu y bydd hyd y cylch yn gyfnod o lai na blwyddyn.

6

Yn achos athro neu athrawes ysgol mewn ysgol feithrin a gynhelir sydd yn ei swydd ar y dyddiad perthnasol, caiff y pennaeth benderfynu bod hyd y cylch gwerthuso cyntaf yn gyfnod heblaw blwyddyn ar yr amod nad yw'n dod i ben yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2012.

7

Yn achos athro neu athrawes ysgol a gyflogir o dan gontract cyflogaeth am gyfnod penodol o lai na blwyddyn (ond nad yw'n gontract cyfnod byr) sydd yn ei swydd ar y dyddiad perthnasol, rhaid i'r perfformiad gael ei werthuso drwy gydol y cyfnod o'r contract sydd heb ddod i ben fel y mae ar y dyddiad perthnasol a'i adolygu ar ddiwedd y cyfnod penodol.

8

Pan fyddant wedi dechrau, bydd cylchoedd gwerthuso pob athro ac athrawes ysgol yn barhaus.

9

Ni fydd penodi gwerthuswr newydd yn peri bod cylch gwerthuso athro neu athrawes ysgol yn dechrau eto.