- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
22.—(1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, ac i reoliad 23, rhaid i'r pennaeth benderfynu amseriad cylch gwerthuso pob athro ac athrawes ysgol yn yr ysgol.
(2) Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraffau (3), (4) a (5) a rheoliad 23(3), blwyddyn fydd hyd cylch gwerthuso.
(3) Yn achos athro neu athrawes ysgol a gyflogir o dan gontract cyflogaeth am gyfnod penodol o lai na blwyddyn, hyd y cyfnod penodol yw hyd y cylch gwerthuso.
(4) Yn achos cylch gwerthuso cyntaf athro neu athrawes ysgol o dan y Rheoliadau hyn sydd yn ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff y pennaeth benderfynu y bydd hyd y cylch gwerthuso yn gyfnod heblaw blwyddyn ar yr amod nad yw'n dod i ben yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2012.
(5) Yn achos cylch gwerthuso cyntaf athro neu athrawes ysgol o dan y Rheoliadau hyn nad yw yn ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff y pennaeth benderfynu y bydd hyd y cylch yn gyfnod o lai na blwyddyn.
(6) Yn achos athro neu athrawes ysgol mewn ysgol feithrin a gynhelir sydd yn ei swydd ar y dyddiad perthnasol, caiff y pennaeth benderfynu bod hyd y cylch gwerthuso cyntaf yn gyfnod heblaw blwyddyn ar yr amod nad yw'n dod i ben yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2012.
(7) Yn achos athro neu athrawes ysgol a gyflogir o dan gontract cyflogaeth am gyfnod penodol o lai na blwyddyn (ond nad yw'n gontract cyfnod byr) sydd yn ei swydd ar y dyddiad perthnasol, rhaid i'r perfformiad gael ei werthuso drwy gydol y cyfnod o'r contract sydd heb ddod i ben fel y mae ar y dyddiad perthnasol a'i adolygu ar ddiwedd y cyfnod penodol.
(8) Pan fyddant wedi dechrau, bydd cylchoedd gwerthuso pob athro ac athrawes ysgol yn barhaus.
(9) Ni fydd penodi gwerthuswr newydd yn peri bod cylch gwerthuso athro neu athrawes ysgol yn dechrau eto.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: