RHAN IIGwerthuso Penaethiaid

Gwybodaeth o ddatganiadau gwerthuso18

1

Caniateir i wybodaeth berthnasol o ddatganiadau gwerthuso gael ei chymryd i ystyriaeth gan gyrff llywodraethu ysgolion (gan gynnwys pwyllgorau cyrff llywodraethu), Prif Swyddogion Addysg neu unrhyw swyddogion neu gynghorwyr a ddynodir yn benodol gan Brif Swyddog Addysg o dan reoliad 17(1)(d) neu (2) wrth iddynt wneud penderfyniadau, ac wrth iddynt gynghori'r rhai sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, ynghylch dyrchafu, diswyddo neu ddisgyblu penaethiaid neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl.

2

Ni fydd gweithdrefnau gwerthuso mewn perthynas â phennaeth fel y'u disgrifir yn y Rheoliadau hyn yn ffurfio unrhyw gamau y mae'n rhaid eu cymryd mewn gweithdrefnau disgyblu neu ddiswyddo a ddygir yn erbyn pennaeth.