RHAN IIGwerthuso Penaethiaid
Darparu datganiadau gwerthuso a'u cadw17
1
Rhaid i'r gwerthuswyr roi copi o'r datganiad gwerthuso i'r canlynol—
a
y pennaeth;
b
cadeirydd y corff llywodraethu;
c
y Prif Swyddog Addysg;
ch
unrhyw lywodraethwyr sy'n gyfrifol am gynghori ynghylch dyrchafu, disgyblu neu ddiswyddo athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny, os gwneir cais gan y llywodraethwyr hynny; a
d
yn achos pennaeth ysgol nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig (o fewn ystyr Pennod IV o Ran II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998), unrhyw swyddog neu gynghorydd a ddynodir yn benodol gan y Prif Swyddog Addysg i fod yn gyfrifol am gynghori ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny, os gwneir cais gan y swyddog neu'r cynghorydd hwnnw.
2
Rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu roi copi o'r datganiad gwerthuso i unrhyw swyddog neu gynghorydd a ddynodir yn benodol gan y Prif Swyddog Addysg i fod yn gyfrifol am gynghori am berfformiad penaethiaid yn unol â rheoliad 6 o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 20068, neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny, ar ôl cael cais gan y swyddog neu'r cynghorydd hwnnw.
3
Rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu roi copi o'r datganiad gwerthuso a'r datganiad amcanion i unrhyw swyddog apêl cyn pen pum diwrnod ysgol ar ôl i'r corff llywodraethu gael hysbysiad apêl o dan reoliad 16(2).
4
Pan fydd gwerthuswr newydd yn cael ei benodi heblaw ar ddechrau cylch gwerthuso, rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu roi copi o unrhyw ddatganiad amcanion cyfredol i'r person hwnnw.
5
Rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu roi copi o'r atodiad i'r datganiad gwerthuso y cyfeirir ato yn rheoliad 15(4) i'r person neu'r personau sy'n gyfrifol am gynllunio hyfforddiant a datblygiad y pennaeth yn yr ysgol.
6
Rhaid i bennaeth gadw copi o ddatganiad gwerthuso am o leiaf dair blynedd ar ôl i'r datganiad gwerthuso nesaf gael ei gwblhau.
7
Rhaid i'r corff llywodraethu gadw copi o ddatganiad gwerthuso'r pennaeth am o leiaf dair blynedd ar ôl i'r datganiad gwerthuso nesaf gael ei gwblhau.