RHAN IIGwerthuso Penaethiaid
Yr adolygiad gwerthuso a'r datganiad gwerthuso15
1
Ar ddiwedd y cylch gwerthuso neu yn agos i ddiwedd y cylch gwerthuso rhaid i'r holl werthuswyr a'r pennaeth gynnal adolygiad gwerthuso, er mwyn—
a
penderfynu a oes perfformiad cyffredinol llwyddiannus wedi bod o'i ystyried yn erbyn safonau proffesiynol penaethiaid a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro;
b
asesu i ba raddau y mae'r pennaeth wedi bodloni'r amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion fel y'i nodir yn rheoliad 12(1), gan gymryd i ystyriaeth dystiolaeth berthnasol a gasglwyd drwy'r broses fonitro a nodir yn rheoliad 14 a'r cofnod a gadwyd gan y pennaeth yn unol â rheoliad 12(7); ac
c
nodi'r angen am gymorth, hyfforddiant neu ddatblygiad ychwanegol a sut y gallai'r anghenion hynny gael eu diwallu, gan gymryd i ystyriaeth y cofnod a ddisgrifir yn rheoliad 12(7).
2
Rhaid i'r dyddiad y mae adolygiad gwerthuso i gael ei gynnal gael ei benderfynu gan y gwerthuswyr, ond rhaid rhoi o leiaf 10 diwrnod ysgol o rybudd (mewn ysgrifen) i'r pennaeth am y dyddiad hwnnw.
3
O leiaf pum diwrnod ysgol cyn yr adolygiad gwerthuso, rhaid i'r pennaeth gyflwyno i'r gwerthuswyr y cofnod a gadwyd o dan reoliad 12(7) a rhaid i'r cofnod gael ei ystyried yn yr adolygiad gwerthuso.
4
Cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl pob adolygiad gwerthuso rhaid i'r holl werthuswyr baratoi datganiad ysgrifenedig yn cofnodi'r prif bwyntiau a wnaed gan y gwerthuswyr a'r pennaeth yn yr adolygiad a'r casgliadau y daethpwyd iddynt, a rhaid cofnodi mewn atodiad i'r datganiad (sef atodiad a fydd yn rhan o'r datganiad) yr anghenion hyfforddi a datblygu a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny a nodwyd yn yr adolygiad.
5
Caniateir i adolygiad gwerthuso o dan baragraff (1) gael ei gyfuno â chyfarfod o dan reoliad 12 mewn perthynas â'r cylch gwerthuso canlynol.
6
Rhaid i'r gwerthuswyr roi copi o'r datganiad a baratoir o dan baragraff (4) i'r pennaeth cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl yr adolygiad gwerthuso.
7
Caiff y pennaeth, cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o'r datganiad hwnnw, ychwanegu sylwadau ysgrifenedig ato, a bydd y sylwadau hynny yn rhan o'r datganiad a baratoir o dan y paragraff hwnnw.