RHAN IIGwerthuso Penaethiaid

Diwygio amcanion13

1

Caniateir i amcanion pennaeth gael eu diwygio gan y gwerthuswyr unrhyw bryd yn ystod y cylch gwerthuso.

2

Os yw amcanion pennaeth yn cael eu diwygio o dan baragraff (1)—

a

rhaid newid y datganiad amcanion i ddangos yr amcan diwygiedig, dyddiad y diwygiad a'r rheswm dros y diwygiad;

b

caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at amcanion y pennaeth eu darllen fel cyfeiriadau at yr amcanion diwygiedig; ac

c

caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddatganiad amcanion y pennaeth eu darllen fel cyfeiriadau at y datganiad amcanion diwygiedig.