RHAN IIGwerthuso Penaethiaid

Cynllunio gwerthusiad a phennu amcanion12

1

Cyn y cylch gwerthuso neu ar ddechrau'r cylch gwerthuso, rhaid i'r holl werthuswyr a'r pennaeth gyfarfod er mwyn cynllunio'r gwerthusiad a pharatoi ar ei gyfer a cheisio cytuno ar amcanion y pennaeth y mae'n rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth berthnasol y bydd y gwerthuswyr a'r pennaeth yn cytuno arni (neu os na cheir cytundeb, unrhyw dystiolaeth berthnasol y penderfynir arni gan y gwerthuswyr) ond a fydd yn cynnwys yr Wybodaeth am Berfformiad Ysgolion, ac y mae'n rhaid iddynt ymwneud â'r canlynol—

a

arwain yr ysgol a'i rheoli;

b

disgrifiad swydd y pennaeth;

c

unrhyw feini prawf perthnasol ynghylch datblygiad cyflog;

ch

unrhyw amcanion perthnasol i'r ysgol gyfan neu i'r tîm a bennwyd yng Nghynllun Gwella'r Ysgol;

d

safonau proffesiynol penaethiaid fel y'u pennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro; ac

dd

unrhyw flaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro.

2

Caniateir i amcanion y pennaeth a ddisgrifir ym mharagraff (1) gymryd i ystyriaeth hefyd ddyheadau proffesiynol y pennaeth.

3

Bydd amcanion y pennaeth yn gyfryw ag i gyfrannu, o'u cyflawni, at wella cynnydd disgyblion yr ysgol.

4

Os na chytunir ar amcanion o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswyr nodi'n ysgrifenedig yr amcanion hynny y maent yn credu eu bod yn briodol, a chaiff y pennaeth ychwanegu sylwadau ysgrifenedig.

5

Rhaid i'r amcanion y cytunir arnynt o dan baragraff (1), neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (4), a sylwadau ysgrifenedig y pennaeth, gael eu cofnodi mewn datganiad amcanion ysgrifenedig.

6

Pan fo'r amcanion wedi'u pennu, rhaid i'r gwerthuswyr a'r pennaeth geisio cytuno ar y cymorth y mae ar y pennaeth ei angen er mwyn bodloni'r amcanion. Os na ellir cytuno, yr awdurdod lleol fydd yn penderfynu ar y cymorth y mae ei angen.

7

Yn ystod y cylch gwerthuso, rhaid i'r pennaeth gadw cofnod cyfoes o'r canlynol—

a

asesiad y pennaeth ei hun o berfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion;

b

manylion unrhyw weithgareddau datblygu proffesiynol yr ymgymerwyd â hwy neu gymorth arall a roddwyd a sut mae hynny'n cyfrannu at gyflawni'r amcanion; ac

c

manylion unrhyw ffactorau y mae'r pennaeth yn credu eu bod yn effeithio ar y perfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd.

8

Caiff Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru7 wneud cais am gopi o ddatganiad amcanion y pennaeth, ac ar ôl cael cais o'r fath rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu roi copi o'r datganiad i'r Arolygiaeth.