- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
12.—(1) Cyn y cylch gwerthuso neu ar ddechrau'r cylch gwerthuso, rhaid i'r holl werthuswyr a'r pennaeth gyfarfod er mwyn cynllunio'r gwerthusiad a pharatoi ar ei gyfer a cheisio cytuno ar amcanion y pennaeth y mae'n rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth berthnasol y bydd y gwerthuswyr a'r pennaeth yn cytuno arni (neu os na cheir cytundeb, unrhyw dystiolaeth berthnasol y penderfynir arni gan y gwerthuswyr) ond a fydd yn cynnwys yr Wybodaeth am Berfformiad Ysgolion, ac y mae'n rhaid iddynt ymwneud â'r canlynol—
(a)arwain yr ysgol a'i rheoli;
(b)disgrifiad swydd y pennaeth;
(c)unrhyw feini prawf perthnasol ynghylch datblygiad cyflog;
(ch)unrhyw amcanion perthnasol i'r ysgol gyfan neu i'r tîm a bennwyd yng Nghynllun Gwella'r Ysgol;
(d)safonau proffesiynol penaethiaid fel y'u pennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro; ac
(dd)unrhyw flaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro.
(2) Caniateir i amcanion y pennaeth a ddisgrifir ym mharagraff (1) gymryd i ystyriaeth hefyd ddyheadau proffesiynol y pennaeth.
(3) Bydd amcanion y pennaeth yn gyfryw ag i gyfrannu, o'u cyflawni, at wella cynnydd disgyblion yr ysgol.
(4) Os na chytunir ar amcanion o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswyr nodi'n ysgrifenedig yr amcanion hynny y maent yn credu eu bod yn briodol, a chaiff y pennaeth ychwanegu sylwadau ysgrifenedig.
(5) Rhaid i'r amcanion y cytunir arnynt o dan baragraff (1), neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (4), a sylwadau ysgrifenedig y pennaeth, gael eu cofnodi mewn datganiad amcanion ysgrifenedig.
(6) Pan fo'r amcanion wedi'u pennu, rhaid i'r gwerthuswyr a'r pennaeth geisio cytuno ar y cymorth y mae ar y pennaeth ei angen er mwyn bodloni'r amcanion. Os na ellir cytuno, yr awdurdod lleol fydd yn penderfynu ar y cymorth y mae ei angen.
(7) Yn ystod y cylch gwerthuso, rhaid i'r pennaeth gadw cofnod cyfoes o'r canlynol—
(a)asesiad y pennaeth ei hun o berfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion;
(b)manylion unrhyw weithgareddau datblygu proffesiynol yr ymgymerwyd â hwy neu gymorth arall a roddwyd a sut mae hynny'n cyfrannu at gyflawni'r amcanion; ac
(c)manylion unrhyw ffactorau y mae'r pennaeth yn credu eu bod yn effeithio ar y perfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd.
(8) Caiff Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru(1) wneud cais am gopi o ddatganiad amcanion y pennaeth, ac ar ôl cael cais o'r fath rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu roi copi o'r datganiad i'r Arolygiaeth.
A elwir yn gyffredin “Estyn”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: