- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
34.—(1) Mae rheoliadau 35 i 45 yn gymwys i werthuso athrawon digyswllt.
(2) Yn y Rhan IV hon mae “ysgol” (“school”) yn cynnwys uned cyfeirio disgyblion ac mae cyfeiriadau at bennaeth yn cynnwys cyfeiriad at athro neu athrawes sydd â gofal uned cyfeirio disgyblion.
35.—(1) Rhaid i'r awdurdod gael polisi ysgrifenedig (“y polisi rheoli perfformiad”) sy'n nodi sut y mae gwerthuso athrawon digyswllt i gael ei roi ar waith.
(2) Rhaid i'r awdurdod adolygu'r polisi rheoli perfformiad bob blwyddyn ysgol.
(3) Yn sgil adolygiad o'r fath rhaid i'r awdurdod, os yw'n gweld yn dda, ddiwygio'r polisi rheoli perfformiad.
(4) Cyn sefydlu neu ddiwygio'r polisi rheoli perfformiad rhaid i'r awdurdod ymgynghori â phob un o'i athrawon digyswllt ynghylch ffurfio'r polisi rheoli perfformiad neu ei ddiwygio.
(5) Rhaid i'r awdurdod roi'r polisi rheoli perfformiad ar waith.
(6) Rhaid i'r awdurdod drefnu bod copi o'r polisi rheoli perfformiad ar gael i'w archwilio ar unrhyw adeg resymol gan y canlynol:
(a)unrhyw athro neu athrawes ddigyswllt;
(b)unrhyw berson sy'n ymwneud ag arolygu sut y mae'r system gwerthuso athrawon digyswllt yn gweithio;
(c)unrhyw werthuswr a benodir yn unol â'r Rheoliadau hyn.
36.—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol yr awdurdod yw'r gwerthuswr ar gyfer pob athro neu athrawes ddigyswllt.
(2) Caiff yr awdurdod ddirprwyo rhai neu'r cyfan o'r dyletswyddau a osodir ar werthuswr i athro neu athrawes ysgol yn yr ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio prif ran ei amser gwaith neu ei hamser gwaith, neu i unrhyw berson arall y mae'r awdurdod yn credu ei fod yn y sefyllfa orau i reoli ac i adolygu perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt.
(3) Caiff yr awdurdod benodi gwerthuswr newydd yn lle gwerthuswr presennol ar unrhyw adeg neu caiff gyflawni'r dyletswyddau hynny ei hun.
37.—(1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod benderfynu amseriad cylch gwerthuso pob athro ac athrawes ddigyswllt a gyflogir ganddo.
(2) Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraffau (3), (4) a (5) blwyddyn fydd hyd cylch gwerthuso.
(3) Yn achos cylch gwerthuso cyntaf athro neu athrawes ddigyswllt o dan y Rheoliadau hyn sydd yn ei swydd ar y dyddiad perthnasol, caiff yr awdurdod benderfynu y bydd hyd y cylch gwerthuso yn gyfnod heblaw blwyddyn.
(4) Yn achos cylch gwerthuso cyntaf athro neu athrawes ddigyswllt o dan y Rheoliadau hyn sydd heb fod yn ei swydd ar y dyddiad perthnasol, caiff yr awdurdod benderfynu y bydd hyd y cylch gwerthuso cyntaf yn gyfnod o lai na blwyddyn.
(5) Yn achos athro neu athrawes ddigyswllt a gyflogir o dan gontract cyflogaeth am gyfnod penodol o lai na blwyddyn, rhaid i'r perfformiad gael ei reoli drwy gydol cyfnod y contract a chael ei adolygu ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.
(6) Rhaid i'r awdurdod gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod cylch gwerthuso cyntaf pob athro ac athrawes ddigyswllt sydd yn ei swydd ar y dyddiad perthnasol yn dechrau erbyn 31 Rhagfyr 2012 fan bellaf.
(7) Pan fyddant wedi dechrau, bydd cylchoedd gwerthuso pob athro ac athrawes ddigyswllt yn barhaus.
(8) Ni fydd penodi gwerthuswr newydd yn peri bod cylch gwerthuso athro neu athrawes ddigyswllt yn dechrau eto ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (9).
(9) Pan fydd athro neu athrawes ddigyswllt yn trosglwyddo i swydd newydd yn yr awdurdod ran o'r ffordd drwy gylch gwerthuso, rhaid i'r awdurdod benderfynu a fydd y cylch yn dechrau eto ac os felly a ddylid penodi gwerthuswr newydd.
38.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i reoliadau 39 i 43 rhaid i'r awdurdod benderfynu ar y gweithdrefnau ar gyfer gwerthuso athrawon digyswllt.
(2) Os yw rhai o ddyletswyddau'r awdurdod neu'r cyfan ohonynt mewn perthynas ag athro neu athrawes ddigyswllt wedi'u dirprwyo i athro neu athrawes yn yr ysgol yn unol â rheoliad 36(2) yna yn ddarostyngedig i reoliadau 39 i 43, rhaid i'r gweithdrefnau ar gyfer gwerthuso'r athro digyswllt hwnnw neu'r athrawes ddigyswllt honno fod yn rhai a benderfynir gan gorff llywodraethu'r ysgol yn unol â rheoliad 25.
39.—(1) Cyn y cylch gwerthuso neu ar ddechrau'r cylch gwerthuso, rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt gyfarfod er mwyn cynllunio'r gwerthusiad a pharatoi ar ei gyfer a cheisio cytuno ar amcanion yr athro neu'r athrawes ddigyswllt y mae'n rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth berthnasol y bydd y gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn cytuno arni (neu os na cheir cytundeb, unrhyw dystiolaeth berthnasol y penderfynir arni gan y gwerthuswr) ond a fydd yn cynnwys yr Wybodaeth am Berfformiad Disgyblion ac y mae'n rhaid iddynt ymwneud â'r canlynol—
(a)datblygu a gwella arferion proffesiynol yr athro neu'r athrawes ddigyswllt;
(b)disgrifiad swydd yr athro neu'r athrawes ddigyswllt;
(c)unrhyw feini prawf perthnasol ynghylch datblygiad cyflog;
(ch)unrhyw amcanion perthnasol i'r ysgol gyfan neu i'r tîm a bennwyd yng Nghynllun Gwella'r Ysgol; a
(d)safonau proffesiynol athrawon ysgol fel y'u pennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro.
(2) Caniateir i amcanion yr athro neu'r athrawes ddigyswllt a ddisgrifir ym mharagraff (1) gymryd i ystyriaeth hefyd—
(a)dyheadau proffesiynol yr athro neu'r athrawes ddigyswllt; a
(b)unrhyw flaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro.
(3) Bydd amcanion yr athro neu'r athrawes ddigyswllt yn gyfryw ag i gyfrannu, o'u cyflawni, at wella cynnydd disgyblion yr ysgolion lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn gweithio.
(4) Os na chytunir ar amcanion o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswr nodi'n ysgrifenedig yr amcanion hynny y mae'n credu eu bod yn briodol, a chaiff yr athro neu'r athrawes ddigyswllt ychwanegu sylwadau ysgrifenedig.
(5) Rhaid i'r amcanion y cytunir arnynt o dan baragraff (1), neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (4), a sylwadau ysgrifenedig yr athro neu'r athrawes ddigyswllt, gael eu cofnodi mewn datganiad amcanion ysgrifenedig.
(6) Pan fo'r amcanion wedi'u pennu, rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt geisio cytuno ar y cymorth y mae ar yr athro neu'r athrawes ddigyswllt ei angen er mwyn bodloni'r amcanion. Os na ellir cytuno, y gwerthuswr fydd yn penderfynu ar y cymorth y mae ei angen.
(7) Yn ystod y cylch gwerthuso, rhaid i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt gadw cofnod cyfoes o'r canlynol—
(a)asesiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt ei hun o berfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion;
(b)manylion unrhyw weithgareddau datblygu proffesiynol yr ymgymerwyd â hwy neu gymorth arall a roddwyd a sut y mae hynny'n cyfrannu at gyflawni'r amcanion; ac
(c)manylion unrhyw ffactorau y mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn credu eu bod yn effeithio ar y perfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd.
40.—(1) Caniateir i amcanion athro neu athrawes ddigyswllt gael eu diwygio gan y gwerthuswr ar unrhyw adeg yn ystod y cylch gwerthuso.
(2) Os yw amcanion athro neu athrawes ddigyswllt yn cael eu diwygio o dan baragraff (1)—
(a)rhaid newid y datganiad amcanion i ddangos y diwygiadau;
(b)caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at amcanion yr athro neu'r athrawes ddigyswllt eu darllen fel cyfeiriadau at yr amcanion diwygiedig; ac
(c)caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddatganiad amcanion yr athro neu'r athrawes ddigyswllt eu darllen fel cyfeiriadau at y datganiad amcanion diwygiedig.
41.—(1) Rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt mewn cyfarfod a gynhelir o dan reoliad 39 geisio cytuno ar y gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt yn erbyn yr amcanion y cytunir arnynt o dan reoliad 39(1) neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan reoliad 39(4).
(2) Os na chytunir ar weithdrefnau o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswr nodi'n ysgrifenedig y gweithdrefnau hynny ar gyfer monitro perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt y mae'n credu eu bod yn briodol.
(3) Rhaid i'r gweithdrefnau p'un a ydynt wedi'u cytuno o dan baragraff (1) ynteu wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2) gynnwys:
(a)gofyniad bod y gwerthuswr wrth werthuso'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn arsylwi ar yr athro neu'r athrawes ddigyswllt yn addysgu o leiaf unwaith yn ystod y cylch gwerthuso;
(b)gofyniad bod y gwerthuswr yn ceisio gwybodaeth gan y rhai sydd â gwybodaeth broffesiynol berthnasol am yr athro neu'r athrawes ddigyswllt mewn mannau eraill lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu ei hamser gwaith yn rheolaidd.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (5) ni chaiff gwerthuswr gael gwybodaeth, yn ysgrifenedig ynteu ar lafar, sy'n berthnasol i berfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt gan neb arall oni bai bod yr athro neu'r athrawes ddigyswllt yn cydsynio neu fod yr wybodaeth wedi'i chael yn unol â'r gweithdrefnau y cytunir arnynt o dan baragraff (1), neu os nad oes gweithdrefnau wedi'u cytuno, y gweithdrefnau sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2).
(5) Nid yw paragraff (4) yn gymwys i unrhyw wybodaeth y mae gan werthuswr hawl i'w chael o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn.
42.—(1) Ar ddiwedd y cylch gwerthuso neu yn agos i ddiwedd y cylch gwerthuso rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt gynnal adolygiad gwerthuso, er mwyn—
(a)asesu i ba raddau y mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt wedi bodloni'r amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion fel y'i nodir yn rheoliad 39(1), gan gymryd i ystyriaeth y cofnod y mae'n rhaid i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt ei gadw yn unol â rheoliad 39(7);
(b)penderfynu a oes perfformiad cyffredinol llwyddiannus wedi bod o'i ystyried yn erbyn safonau proffesiynol athrawon ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro; ac
(c)nodi'r angen am gymorth, hyfforddiant neu ddatblygiad ychwanegol a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny, gan gymryd i ystyriaeth hefyd y cofnod a ddisgrifir yn rheoliad 39(7).
(2) Bydd y dyddiad y mae adolygiad gwerthuso i gael ei gynnal yn cael ei benderfynu gan y gwerthuswr, ond rhaid rhoi o leiaf 10 diwrnod ysgol o rybudd (mewn ysgrifen) i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt am y dyddiad hwnnw.
(3) O leiaf pum diwrnod ysgol cyn yr adolygiad gwerthuso, rhaid i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt gyflwyno i'r gwerthuswr y cofnod a gadwyd o dan reoliad 39(7) a rhaid i'r cofnod gael ei ystyried yn yr adolygiad gwerthuso.
(4) Cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl pob adolygiad gwerthuso, rhaid i'r gwerthuswr baratoi datganiad ysgrifenedig yn cofnodi'r prif bwyntiau a wnaed gan y gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn yr adolygiad a'r casgliadau y daethpwyd iddynt, a rhaid cofnodi mewn atodiad i'r datganiad (sef atodiad a fydd yn rhan o'r datganiad) yr anghenion hyfforddi a datblygu a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny a nodwyd yn yr adolygiad.
(5) Caniateir i adolygiad gwerthuso o dan baragraff (1) gael ei gyfuno â chyfarfod o dan reoliad 39 mewn perthynas â'r cylch gwerthuso canlynol.
(6) Rhaid i'r gwerthuswr roi copi o'r datganiad a baratoir o dan baragraff (4) i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl yr adolygiad gwerthuso.
(7) Caiff yr athro neu'r athrawes ddigyswllt, cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o'r datganiad hwnnw, ychwanegu sylwadau ysgrifenedig ato, a bydd y sylwadau hynny yn rhan o'r datganiad gwerthuso.
(8) Os nad yr awdurdod yw'r gwerthuswr, rhaid i'r gwerthuswr anfon copi o'r datganiad gwerthuso i'r awdurdod ac at bennaeth unrhyw ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu o'i hamser gwaith yn rheolaidd.
(9) Os yr awdurdod yw'r gwerthuswr, rhaid i'r awdurdod anfon copi o'r datganiad gwerthuso at bennaeth unrhyw ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu o'i hamser gwaith yn rheolaidd.
43.—(1) Mae gan athro neu athrawes ddigyswllt hawl i apelio yn erbyn gwerthusiad o dan y Rheoliadau hyn cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o'r datganiad gwerthuso o dan reoliad 42(6).
(2) Os athro neu athrawes mewn ysgol yw'r gwerthuswr bydd darpariaethau rheoliad 30(2) i (12) yn gymwys, ac eithrio y bydd cyfeiriadau yn y paragraffau hynny at ddatganiad gwerthuso yn gyfeiriadau at ddatganiad a baratoir o dan reoliad 42(4) gan gynnwys at ddibenion rheoliadau 31 a 32 unrhyw sylwadau a ychwanegwyd gan swyddog apêl o dan baragraff (6)(a) o reoliad 30.
(3) Os yr awdurdod yw'r gwerthuswr gwneir unrhyw apêl yn ysgrifenedig i'r awdurdod yn unol â'r gweithdrefnau apelio sy'n gymwys i'r holl staff ac eithrio fel y gall fod yn anghyson â'r rheoliad hwn.
(4) Rhaid i'r swyddog apêl gynnal a chwblhau adolygiad o'r gwerthusiad cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael y datganiad gwerthuso o dan reoliad 44(2)(b) a rhaid iddo gymryd unrhyw sylwadau a wneir gan yr athro neu'r athrawes ddigyswllt i ystyriaeth.
(5) Caiff y swyddog apêl—
(a)gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn sefyll gyda sylwadau'r swyddog apêl neu hebddynt; neu
(b)diwygio'r datganiad gwerthuso gyda chytundeb y gwerthuswr; neu
(c)gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn cael ei ddileu a gorchymyn gwerthusiad newydd.
(6) Pan fydd gwerthusiad newydd yn cael ei orchymyn o dan baragraff (5)(c) rhaid penodi gwerthuswr newydd yn unol â rheoliad 36 a rhaid i'r swyddog apêl benderfynu pa weithdrefnau gwerthuso y mae'n rhaid eu hailadrodd.
(7) Os yw'n ymddangos i'r swyddog apêl nad oes athro neu athrawes ysgol mewn ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio prif ran ei amser gwaith neu ei hamser gwaith sy'n addas i fod yn werthuswr newydd y gellir ei benodi ar gyfer yr athro neu'r athrawes ddigyswllt, rhaid i'r swyddog apêl benodi fel gwerthuswr newydd ar gyfer yr athro neu'r athrawes ddigyswllt aelod o gorff llywodraethu'r ysgol honno (heblaw llywodraethwr sy'n athro neu'n athrawes neu'n aelod arall o staff) neu unrhyw berson arall sy'n addas i reoli ac i adolygu perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt.
(8) Rhaid cwblhau pob gweithdrefn werthuso y penderfynir ei hailadrodd o dan baragraff (6) cyn pen 15 diwrnod ysgol ar ôl dyddiad gorchymyn y swyddog apêl o dan baragraff (5)(c).
(9) Ni chaniateir i'r swyddog apêl—
(a)penderfynu bod amcanion newydd i gael eu cytuno neu eu pennu; na
(b)penderfynu bod yr amcanion y cytunwyd arnynt neu a bennwyd o dan reoliad 39(1) i gael eu diwygio.
(10) Mae'r cyfeiriadau yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 44 a 45 at ddatganiad gwerthuso yn gyfeiriadau at ddatganiad a baratoir o dan reoliad 42(4), gan gynnwys, yn achos rheoliadau 44 a 45, unrhyw sylwadau a ychwanegir gan swyddog apêl o dan baragraff (5)(a).
44.—(1) Rhaid i'r gwerthuswr roi copi o'r datganiad gwerthuso—
(a)i'r pennaeth ymhob ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu o'i hamser gwaith yn rheolaidd; a
(b)i'r awdurdod.
(2) Caiff y personau canlynol wneud cais am gopi o'r datganiad gwerthuso a rhaid i'r awdurdod, os gwneir cais o'r fath, drefnu bod copi o'r datganiad gwerthuso ar gael i'r person hwnnw—
(a)y gwerthuswr;
(b)unrhyw swyddog apêl cyn pen pum diwrnod ysgol ar ôl i'r awdurdod gael hysbysiad apêl o dan reoliad 43, y mae'n rhaid rhoi copi iddo hefyd o'r datganiad amcanion; ac
(c)y Prif Swyddog Addysg neu unrhyw swyddog neu gynghorydd a ddynodir yn benodol gan y Prif Swyddog Addysg i fod yn gyfrifol am gynghori am ddyrchafiad athrawon digyswllt, neu am ddefnyddio unrhyw ddisgresiwn ynghylch cyflog, neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny.
(3) Os yw'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn gymwys ar gyfer datblygiad cyflog o dan y Ddogfen, rhaid i'r gwerthuswr roi argymhelliad ynghylch datblygiad cyflog i'r awdurdod, gan roi sylw i ddatganiad gwerthuso'r athro neu'r athrawes ddigyswllt.
(4) Rhaid i'r awdurdod roi copi o'r atodiad i'r datganiad gwerthuso y cyfeirir ato yn rheoliad 42(4) i'r person neu'r personau sy'n gyfrifol am gynllunio hyfforddiant a datblygiad athrawon ysgol yn unrhyw ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu o'i hamser gwaith yn rheolaidd.
(5) Rhaid i'r awdurdod drefnu bod datganiad amcanion cyfredol athro neu athrawes ddigyswllt ar gael i werthuswr newydd a benodir heblaw ar ddechrau cylch gwerthuso.
(6) Rhaid i ddatganiad gwerthuso athro neu athrawes ddigyswllt gael ei gadw gan yr awdurdod am o leiaf dair blynedd ar ôl i'r datganiad gwerthuso nesaf gael ei gwblhau.
45.—(1) Caniateir i wybodaeth berthnasol o ddatganiadau gwerthuso gael ei chymryd i ystyriaeth gan awdurdod, Prif Swyddogion Addysg neu unrhyw swyddogion neu gynghorwyr a ddynodir yn benodol gan Brif Swyddog Addysg o dan reoliad 44(2)(c) wrth iddynt wneud penderfyniadau, ac wrth iddynt gynghori'r rhai sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, ynghylch dyrchafu, diswyddo neu ddisgyblu athrawon digyswllt neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl.
(2) Ni fydd gweithdrefnau gwerthuso mewn perthynas ag athro neu athrawes ddigyswllt fel y'u nodir yn y Rheoliadau hyn yn ffurfio unrhyw gamau y mae'n rhaid eu cymryd mewn gweithdrefnau disgyblu neu ddiswyddo a ddygir yn erbyn athro neu athrawes ddigyswllt.
46. Mae rheoliadau 44 a 45 yn gymwys mewn perthynas â chofnodion gwerthuso a gafodd eu cynhyrchu a'u cadw o dan Reoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002 fel y maent yn gymwys mewn perthynas â datganiadau gwerthuso.
47.—(1) Yn rheoliad 2(1) hepgorer y diffiniadau o “athro ysgol”, “tymor ysgol” a “contract cyfnod byr”.
(2) Ar ddiwedd rheoliad 2(2)(a) mewnosoder “a” ac yn rheoliad 2(2)(b) hepgorer “ac”.
(3) Dileer rheoliad 2(2)(c).
(4) Dileer rheoliad 10.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: