RHAN ICyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2012.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diddymu, arbedion a darpariaethau trosiannol2

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 20022 (fel y'u diwygiwyd), Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Diwygio) (Cymru) 20093, Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) (Diwygiad Rhif 2) 20094 a Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Diwygio) (Cymru) 20025 wedi'u diddymu.

2

Mae'r arbedion a'r darpariaethau trosiannol yn rheoliadau 19, 33 a 46 ac yn yr Atodlen yn effeithiol.

Dehongli3

1

Ac eithrio lle mae'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “athro neu athrawes ddigyswllt” (“unattached teacher”) yw athro neu athrawes a gyflogir gan yr awdurdod ac sy'n cwympo o fewn un o'r categorïau a ganlyn—

    1. a

      athro neu athrawes nad yw'n gysylltiedig ag ysgol benodol;

    2. b

      athro neu athrawes a gyflogir i ddarparu addysg gynradd neu uwchradd heblaw mewn ysgol; neu

    3. c

      athro neu athrawes a gyflogir mewn uned cyfeirio disgyblion (gan gynnwys athro neu athrawes sydd â gofal uned);

    ond nid yw'n cynnwys athro neu athrawes a gyflogir o dan gontract cyfnod byr;

  • ystyr “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yw athro neu athrawes a gyflogir gan awdurdod lleol neu gan gorff llywodraethu ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol arbennig sefydledig, ond nid yw'n cynnwys athro neu athrawes a gyflogir o dan gontract cyfnod byr;

  • ystyr “awdurdod” (“authority”) mewn perthynas ag athro neu athrawes ddigyswllt yw'r awdurdod lleol sy'n cyflogi'r athro neu'r athrawes ac os yw ef neu hi yn gyflogedig gan fwy nag un awdurdod, yna pob awdurdod o'r fath;

  • mae i “Awdurdod Esgobaeth” yr ystyr a roddir i “Diocesan Authority” yn adran 142(1) a (4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19986;

  • ystyr “contract cyfnod byr” (“short term contract”) yw contract cyflogaeth am gyfnod penodol o lai nag un tymor ysgol;

  • ystyr “corff llywodraethu” (“governing body”) mewn perthynas ag ysgol yw corff llywodraethu'r ysgol, ac ystyr “llywodraethwr” (“governor”) yw aelod o'r corff llywodraethu hwnnw;

  • ystyr “Cynllun Gwella'r Ysgol” (“School Improvement Plan”) yw'r cynllun strategol sy'n nodi'r amcanion ar gyfer gwella darpariaeth a pherfformiad yr ysgol;

  • ystyr “datganiad amcanion” (“statement of objectives”) yw'r datganiad ysgrifenedig o amcanion a gofnodir o dan reoliad 12(5), rheoliad 26(5) neu reoliad 39(5), yn ôl fel y digwydd;

  • mae i “datganiad gwerthuso” (“appraisal statement”) yr ystyr a roddir iddo gan, yn ôl fel y digwydd, rheoliad 15(4), rheoliad 29(4) neu reoliad 42(4);

  • ystyr “diwrnod ysgol” (“school day”) yw diwrnod pan fydd yr ysgol yn cyfarfod;

  • ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw 1 Medi 2012;

  • ystyr “y Ddogfen” (“the Document”) yw'r ddogfen y cyfeirir ati mewn unrhyw orchymyn sydd mewn grym am y tro o dan adran 122 o Ddeddf Addysg 2002;

  • ystyr “Gwybodaeth am Berfformiad Disgyblion” (“Pupil Performance Information”) yw gwybodaeth am berfformiad disgyblion mewn ysgolion yng Nghymru fel y'i pennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro;

  • ystyr “Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion” (“School Performance Information”) yw gwybodaeth am berfformiad ysgolion yng Nghymru fel y'i pennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro

  • mae “pennaeth” (“head teacher”) yn cynnwys pennaeth dros dro;

  • ystyr “Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol” (“School Performance Management Policy”) yw'r polisi ysgrifenedig sy'n nodi sut y bydd polisi gwerthuso staff yn yr ysgol yn cael ei roi ar waith;

  • ystyr “Prif Swyddog Addysg” (“Chief Education Officer”) yw prif swyddog addysg yr awdurdod lleol (neu, yn achos athro neu athrawes ddigyswllt, prif swyddog addysg yr awdurdod);

  • ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002;

  • mae “tymor ysgol” (“school term”) yn cynnwys (a) cyfnod o amser sydd heb fod yn fwy nag wythnos yn fyrrach na thymor ysgol llawn a (b) dau hanner tymor olynol;

  • ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol, ysgol sefydledig, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir; ac

  • ystyr “ysgol sydd â chymeriad crefyddol” (“school which has a religious character”) yw ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol sydd wedi'i dynodi fel ysgol â chymeriad o'r fath o dan adran 69(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

2

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn—

a

at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

b

at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddo; ac

c

at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Y ddyletswydd i werthuso4

1

Mae'n ddyletswydd ar gorff llywodraethu a phennaeth ysgol i arfer eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn gyda golwg ar sicrhau bod perfformiad athrawon ysgol a phenaethiaid wrth gyflawni eu dyletswyddau yn yr ysgol yn cael ei werthuso'n rheolaidd yn unol â'r Rheoliadau hyn.

2

Yn achos athro neu athrawes ysgol neu bennaeth a gyflogir mewn dwy neu fwy o ysgolion, rhaid i'w perfformiad ym mhob ysgol gael ei werthuso ac felly mae “ysgol” ym mharagraff (1) i gael ei ddarllen fel cyfeiriad at bob ysgol.

3

Pan fo'r awdurdod wedi dirprwyo i athro neu athrawes ysgol rai neu'r cyfan o'r dyletswyddau a osodir ar werthuswr fel y'i caniateir gan reoliad 36(2), dyletswydd corff llywodraethu a phennaeth yr ysgol yw arfer eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn gyda golwg ar sicrhau bod perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt wrth gyflawni eu dyletswyddau yn yr ysgol honno ac mewn ysgolion eraill yn cael ei werthuso'n rheolaidd yn unol â'r Rheoliadau hyn.

4

Dyletswydd yr awdurdod yw arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn gyda golwg ar sicrhau bod perfformiad athrawon digyswllt wrth gyflawni eu dyletswyddau tuag at yr awdurdod yn cael ei werthuso'n rheolaidd yn unol â'r Rheoliadau hyn.

Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol5

1

Cyn i'r cylch gwerthuso ddechrau rhaid i'r corff llywodraethu, yr awdurdod lleol a'r pennaeth sefydlu a chynnal Polisi Rheoli Perfformiad i'r Ysgol.

2

Rhaid i'r corff llywodraethu, yr awdurdod lleol a'r pennaeth adolygu Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol, ac os penderfynant wneud hynny, ei ddiwygio, a hynny'n flynyddol o leiaf.

3

Caiff y corff llywodraethu a'r awdurdod lleol ddirprwyo'r gwaith o ffurfio drafft o Bolisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol, neu ddrafft o ddiwygiadau iddo, i bennaeth yr ysgol, er mwyn iddynt gael eu hystyried.

4

Os na ellir cytuno rhaid i'r awdurdod lleol bennu Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol.

5

Cyn sefydlu neu ddiwygio Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol, rhaid i'r corff llywodraethu (neu, os y cyfarwyddir ef gan y corff llywodraethu, y pennaeth) ymgynghori ag athrawon yr ysgol yn yr ysgol ynglŷn â chynnwys Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol, neu'r newidiadau a gynigir iddo.

6

Rhaid i'r corff llywodraethu a'r pennaeth roi Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol ar waith.

7

O leiaf unwaith yn ystod pob blwyddyn ysgol rhaid i'r pennaeth gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r corff llywodraethu ynghylch sut mae Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol yn gweithredu o dan y Rheoliadau hyn, pa mor effeithiol yw gweithdrefnau gwerthuso'r ysgol, ac anghenion athrawon yr ysgol a'r pennaeth o ran hyfforddi a datblygu.

8

Rhaid i'r corff llywodraethu sicrhau bod copi o Bolisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol ar gael i'w archwilio yn yr ysgol ar ddiwrnodau ysgol.