2011 Rhif 2940 (Cy.316)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 21(3) a 131 o Ddeddf Addysg 20021 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy, ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 131(7) o Ddeddf Addysg 2002 ag unrhyw gymdeithasau awdurdodau lleol yng Nghymru, awdurdodau lleol yng Nghymru, cyrff sy'n cynrychioli buddiannau cyrff llywodraethu yng Nghymru a chyrff sy'n cynrychioli buddiannau athrawon yng Nghymru y mae'n ymddangos iddynt eu bod yn briodol, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: