Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011.
(2)
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2012.
(3)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “awdurdodau partner” (“partner authorities”) yw pob un o'r awdurdodau lleol ac unrhyw un neu ragor o Ymddiriedolaethau'r GIG sy'n cymryd rhan yn y gwaith o baratoi strategaeth gyda Bwrdd Iechyd Lleol;
ystyr “awdurdod dynodedig” (“designated authority”) yw corff cyhoeddus sydd wedi ei ddynodi o dan reoliad 3(1) yn un sydd o dan ddyletswydd i baratoi a chyhoeddi strategaeth;
ystyr “strategaeth” (“strategy”) yw strategaeth gofalwyr y mae'n ofynnol ei pharatoi a'i chyhoeddi o dan adran 2(1) o'r Mesur; ac
ystyr “Ymddiriedolaethau'r GIG” (“the NHS Trusts”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Llunio Strategaeth3.
(1)
Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol, pob awdurdod lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG, baratoi a chyhoeddi strategaeth.
(2)
Rhaid i awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswydd i baratoi strategaeth drwy gymryd rhan yn y gwaith o baratoi un strategaeth ar y cyd â'r Bwrdd Iechyd Lleol y mae ei ardal yn cwmpasu ardal yr awdurdod lleol fel a nodir yn yr Atodlen.
(3)
At ddibenion adran 6(1) o'r Mesur (cyflwyno strategaeth ddrafft i Weinidogion Cymru), y Bwrdd Iechyd Lleol yw'r awdurdod arweiniol ar gyfer y strategaeth y mae'n ei pharatoi gydag awdurdod lleol.
(4)
Rhaid i strategaeth a baratowyd gan Fwrdd Iechyd Lleol ac y mae un neu ragor o awdurdodau lleol wedi cymryd rhan yn y gwaith o'i pharatoi, nodi sut y bydd pob un o'r cyrff hyn yn gweithio gyda'i gilydd i gyrraedd yr amcanion a nodir yn adran 2(1) (a), (b) ac (c) o'r Mesur.
(5)
Caniateir i bob un o Ymddiriedolaethau'r GIG gyflawni ei dyletswydd i baratoi a chyhoeddi strategaeth drwy gymryd rhan yn y broses o baratoi strategaethau'r Byrddau Iechyd Lleol.
Ymgynghori wrth baratoi strategaeth4.
(1)
Wrth fynd ati i baratoi strategaeth, rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol a'i awdurdodau partner ymgynghori â'r cyrff gwirfoddol hynny sydd yn ei ardal y mae o'r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(2)
Pan na fo Ymddiriedolaeth GIG yn “awdurdod partner”, rhaid iddi, serch hynny, ymgynghori â chyrff gwirfoddol y mae o'r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy wrth baratoi strategaeth.
Cynnwys strategaethau5.
(1)
Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol a'i awdurdodau partner, pan fyddant yn paratoi un strategaeth ar y cyd, gynnwys darpariaeth ynghylch y canlynol —
(a)
sut y byddant yn defnyddio ymarferwyr meddygol cyffredinol wrth roi'r strategaeth ar waith;
(b)
hyfforddi staff ;
(c)
ym mha fodd y trefnir y bydd gwybodaeth ar gyfer gofalwyr ar gael ac ym mha ieithoedd y gwneir hynny.
(2)
Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
(3)
Yn y rheoliad hwn, ystyr “ymarferydd meddygol cyffredinol” (“general medical practitioner”) yw—
(a)
person y mae Bwrdd Iechyd Lleol wedi ymrwymo mewn contract gwasanaethau meddygol cyffredinol ag ef a hynny o dan adran 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; neu
(b)
(c)
person y mae Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau ag ef o dan adran 50 o'r Ddeddf honno.
Gwybodaeth briodol a chyngor priodol6.
(1)
Dim ond rhannau canlynol y rheoliad hwn sy'n gymwys mewn perthynas â strategaeth a baratowyd gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru —
(a)
is-baragraffau (2)(a) i (c);
(b)
is-baragraffau (2)(f) a (2)(ng).
(2)
(a)
gwybodaeth am hawliau gofalwyr sy'n cynnwys cyfeiriad at ofalwyr y bobl y mae eu hanghenion yn ymwneud â'u hiechyd meddwl;
(b)
gwybodaeth am feddyginiaeth a'i sgileffeithiau posibl;
(c)
gwybodaeth am gyflwr meddygol a chwrs triniaeth personau y gofelir amdanynt;
(ch)
gwybodaeth i helpu plant a phobl ifanc sydd â rôl gofalu;
(d)
gwybodaeth am argaeledd, hawl i gael a ffynonellau cymorth lleol a chenedlaethol gan gynnwys—
(i)
gwyliau byr a gofal seibiant,
(ii)
asesiad o anghenion gofalwr,
(iii)
y Llys Gwarchod,
(iv)
taliadau uniongyrchol,
(v)
cymorth tai,
(vi)
eiriolaeth annibynnol,
(vii)
cwnsela gan gynnwys cefnogaeth mewn profedigaeth,
(viii)
gwarcheidiaeth,
(ix)
grwpiau cymorth sy'n briodol i oedran,
(x)
grwpiau cymorth sy'n briodol i ddiwylliant,
(xi)
cyngor a chymorth ariannol gan gynnwys cyngor ar fudd-daliadau lles,
(xii)
rheoli materion ariannol a gweinyddol personau y gofelir amdanynt.
(dd)
gwybodaeth a chyngor am ddarpariaethau cyflogaeth, gan gynnwys gweithio hyblyg;
(e)
(f)
gwybodaeth am argaeledd cynlluniau teithio rhatach a threfniadau eraill i gleifion i alluogi gofalwyr i fynd i apwyntiadau GIG gyda'r person y gofelir amdano;
(ff)
gwybodaeth a chyngor am gymhorthion corfforol ac addasiadau i dai;
(g)
gwybodaeth am reoleiddio ac arolygu gwasanaethau iechyd a gofal gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Gofal ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru;
(ng)
gwybodaeth am asiantaethau cymorth i ofalwyr lleol ac am gyrff cenedlaethol priodol sy'n rhoi cymorth i gleifion, defnyddwyr a gofalwyr;
(h)
gwybodaeth am sut y mae pobl yn gallu osgoi cael eu derbyn i ysbyty;
(i)
gwybodaeth am argaeledd cymorth mewn argyfwng a sut i'w gyrchu;
(j)
gwybodaeth am argaeledd ailalluogi a gofal canolraddol i'r person y gofelir amdano;
(l)
gwybodaeth sy'n helpu i hybu iechyd a llesiant (gan gynnwys gwybodaeth a hyfforddiant ar dechnegau rheoli straen, bwyta'n iach ac ymarfer corff);
(ll)
gwybodaeth am weithdrefnau cwyno'r Bwrdd Iechyd Lleol a'r awdurdodau lleol;
(m)
gwybodaeth am raglenni cymorth i helpu gofalwyr i gyflawni eu rôl ofalu yn ddiogel ac yn effeithiol, i gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol—
(i)
codi, symud a thrafod yn ddiogel,
(ii)
rheoli meddyginiaethau gan gynnwys rhoi meddyginiaeth yn ddiogel i'r gofalwr neu i'r person y gofelir amdano,
(iii)
sgiliau nyrsio perthnasol,
(iv)
defnyddio cymhorthion ac addasiadau,
(v)
gofal ymatal,
(vi)
rheoli straen,
(vii)
cymorth gyda bwyta ac yfed,
(viii)
trin agweddau ar ymddygiad y person y gofelir amdano;
(ix)
helpu gofalwyr i edrych ar eu hôl eu hunain.
(3)
Yn y rheoliad hwn, dylid darllen cyfeiriadau at “gwybodaeth” fel petaent yn cynnwys gwybodaeth a ddarperir yn uniongyrchol neu wybodaeth sydd ar gael o ffynhonnell arall, ac y darperir modd i'w chyrchu.
Ymgynghori â gofalwyr neu bersonau y gofelir amdanynt7.
Rhaid i strategaeth nodi'r camau y bydd awdurdod dynodedig yn eu cymryd i sicrhau bod ymgynghori â gofalwyr neu bersonau y gofelir amdanynt yn digwydd ac yn benodol i sicrhau—
(a)
bod yr ymgynghori â gofalwyr ynghylch y trefniadau ar gyfer y rhai y maent yn gofalu amdanynt yn digwydd cyn belled ag y bo modd cyn bod penderfyniadau'n cael eu gwneud;
(b)
bod adnabyddiaeth gofalwr o'r person y gofelir amdano yn cael ei pharchu gan staff sy'n darparu gwasanaethau ac y bydd yn cael ei defnyddio'n briodol;
(c)
bod gofalwyr yn dod yn ymwybodol o hyd a lled eu hawliau i asesiad o'u hanghenion gan awdurdod lleol ac i ddarpariaeth gwasanaethau;
(ch)
bod gofalwyr yn cael help i ddeall y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan y sawl sy'n darparu triniaeth neu wasanaethau i bersonau y gofelir amdanynt a'u bod yn cael eu hannog i gyfrannu at y broses benderfynu;
(d)
pan fo penderfyniadau yn cael eu cymryd yn absenoldeb gofalwyr, bod gofalwyr yn cael esboniad o'r penderfyniad;
(dd)
bod ymgynghori yn digwydd yn rheolaidd ac yn cynnwys ystyriaeth o ba bryd mae angen cymorth ar ofalwyr ar fyr rybudd;
(e)
bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r ffordd y mae ymgyngoriadau â gofalwyr yn cael eu cynnal gan roi sylw i unrhyw anabledd a all fod gan ofalwyr a chan roi sylw i oed, cefndir diwylliannol ac iaith gofalwyr;
(f)
bod gofalwyr a'r personau y gofelir amdanynt yn dod yn ymwybodol o'r help a'r cymorth a all fod ar gael iddynt oddi wrth gyrff gwirfoddol;
(ff)
bod hyfforddiant ar ymgynghori effeithiol yn cael ei roi i staff.
Cyflwyno strategaeth ddrafft i Weinidogion Cymru8.
(1)
Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 10.
(2)
Rhaid i awdurdod dynodedig gyflwyno ei strategaeth gyntaf ar ffurff ddrafft i Weinidogion Cymru erbyn 31 Hydref 2012.
(3)
Rhaid cyflwyno strategaethau i'w cymeradwyo gan Weinidogion Cymru ar ffurf electronig ac ar ffurf bapur.
(4)
Os nad yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo strategaeth, rhaid i'r awdurdod dynodedig gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o gyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru ynghylch cynnwys y strategaeth a'r amser erbyn pryd y mae'n rhaid ei hailgyflwyno.
Darpariaeth bellach am strategaethau9.
(1)
Rhaid i strategaeth gwmpasu cyfnod o dair blynedd.
(2)
Rhaid i bob awdurdod dynodedig adolygu ei strategaeth ar ôl 18 mis a chyn paratoi strategaeth newydd.
(3)
Rhaid i bob awdurdod dynodedig baratoi strategaeth newydd i'w chyflwyno i Weinidogion Cymru dim mwy na thair blynedd ar ôl i'r strategaeth flaenorol gael ei chyflwyno i'w chymeradwyo.
(4)
Rhaid i bob strategaeth olynol gael ei chyhoeddi.
(5)
Rhaid i awdurdodau dynodedig ddarparu adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru sy'n esbonio sut y maent yn rhoi eu strategaeth ar waith a'i monitro.
(6)
Os yw awdurdod dynodedig yn cynnig diwygio ei strategaeth yn sylweddol, rhaid iddo gyflwyno fersiwn ddiwygiedig ddrafft i Weinidogion Cymru i'w chymeradwyo.
(7)
Rhaid cyhoeddi'r strategaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny.
Dyletswyddau Byrddau Iechyd Lleol mewn perthynas â strategaethau ar y cyd10.
Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol a'i awdurdodau partner yn paratoi un strategaeth ar y cyd, gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae'r cyfrifoldeb dros y canlynol—
(a)
cyflwyno'r strategaeth ar ffurf ddrafft i Weinidogion Cymru;
(b)
cyhoeddi'r strategaeth;
(c)
ymgynghori â'r awdurdodau partner cyn darparu adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru ar roi'r strategaeth ar waith a'i monitro;
(ch)
cyflwyno drafft o unrhyw strategaeth ddiwygiedig i Weinidogion Cymru.