http://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2932/signature/made/welsh
Gorchymyn Abertawe (Cymunedau) 2011
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2015-09-16
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi effaith i gynigion y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (“y Comisiwn”), y cafwyd ganddo yn Chwefror 2010 a Medi 2011 adroddiadau ar ei adolygiadau o ffiniau cymunedau yn Ninas a Sir Abertawe. Yn adroddiad Chwefror 2010 y Comisiwn argymhellwyd gwneud newidiadau i ffiniau presennol cymunedau o fewn ardal Dinas a Sir Abertawe a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol. Yn adroddiad y Comisiwn dyddiedig Medi 2011 awgrymwyd bod y ffin rhwng cymunedau Birchgrove a Chlydach yn aros heb eu newid. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith i argymhellion y Comisiwn yn ei adroddiad dyddiedig 2010, ac eithrio'r argymhelliad ar gyfer y newid i'r ffin rhwng cymunedau Birchgrove a Chlydach, ac mae'n rhoi effaith i'r argymhelliad yn adroddiad 2011 heb ei addasu.
Carl SargeantY Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru