2011 Rhif 2932 (Cy.314)
Gorchymyn Abertawe (Cymunedau) 2011
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Gan fod y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru, ac yntau wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721, adroddiadau dyddiedig Chwefror 2010 a Medi 2011 ar ei adolygiadau o gymunedau yn Ninas a Sir Abertawe, a'i gynigion ar eu cyfer;
A chan fod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion yn adroddiad y Comisiwn dyddiedig Chwefror 2010, ac eithrio'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng cymunedau Birchgrove a Chlydach, ac i'r cynigion yn adroddiad y Comisiwn dyddiedig Medi 2011 heb eu haddasu;
A chan fod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru;
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru2, yn gwneud y Gorchymyn canlynol: