Treuliau cychwynnol y cyngor cymuned newydd, etc22

1

Yn yr erthygl hon—

  • ystyr “y cyngor cymuned newydd” (“the new community council”) yw cyngor cymuned newydd y Crwys;

  • ystyr “y darpar awdurdod bilio” (“the prospective billing authority”) yw Cyngor Dinas a Sir Abertawe;

  • ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 19924;

  • ystyr “y flwyddyn ariannol berthnasol” (“the relevant financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012;

  • ystyr “Rheoliadau 1995” (“the 1995 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Praeseptau) (Cymru) 19955.

2

Mae adran 41 o Ddeddf 1992 (dyroddi praeseptau gan awdurdodau praeseptio lleol) yn cael effaith—

a

o ran y cyngor cymuned newydd, y darpar awdurdod bilio a'r flwyddyn ariannol berthnasol; a

b

parthed y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 ac sy'n dod i ben yn union cyn y diwrnod y dyroddir gan y gymuned newydd braesept am y flwyddyn ariannol berthnasol, drwy roi yn lle is-adran (3) yr is-adran a ganlyn—

3

In making calculations in accordance with section 32 above (originally or by way of substitute) the billing authority shall take into account for the purposes of its estimate under section 32(2)(a) above an amount equal to that specified in article 23(6) of the Swansea (Communities) Order 2011.

3

O ran y cyngor cymuned newydd, y darpar awdurdod bilio a'r flwyddyn ariannol berthnasol—

a

mae adran 32 o Ddeddf 1992 (cyfrifo angen cyllidebol gan awdurdodau bilio) yn cael effaith drwy hepgor is-adran (6);

b

mae adran 41(4) o Ddeddf 1992 yn cael effaith drwy roi yn lle'r geiriau “March in the financial year preceding that for which it is issued” y geiriau “October in the financial year for which it is issued”; ac

c

bydd y cyfeiriadau yn adrannau 52X(1) (cyfrifiadau i fod yn net o braeseptau) a 52Y(2) (gwybodaeth at ddibenion Pennod 4A) o Ddeddf 1992 at swm agregedig y praeseptau a ragwelir gan awdurdod bilio yn unol â rheoliadau o dan adran 41 yn cael effaith fel petai'r swm agregedig yn cynnwys y swm a bennir ym mharagraff (6) o'r erthygl hon.

4

O ran y swm a gymerir i ystyriaeth at ddibenion adran 32(2)(a) o Ddeddf 1992 yn rhinwedd paragraff (2) uchod, mae Pennod III o Ran I o Ddeddf 1992 (pennu'r dreth gyngor) i gael effaith fel petai—

a

y swm yn eitem a grybwyllwyd yn adran 35(1) o Ddeddf 1992 (eitemau arbennig) a oedd yn ymwneud â'r gymuned newydd; a

b

ardal y darpar awdurdod bilio yn cynnwys y gymuned newydd.

5

Rhaid i'r cyngor cymuned newydd wneud y cyfrifiadau sy'n ofynnol gan adran 50 o Ddeddf 1992 (cyfrifo angen cyllidebol gan awdurdodau praeseptio lleol) am y flwyddyn ariannol berthnasol er mwyn sicrhau na fydd y swm a gaiff ei gyfrifo fel ei angen cyllidebol am y flwyddyn honno yn fwy na'r swm a bennir ym mharagraff (6) o'r erthygl hon.

6

Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r awdurdod bilio a'r cyngor cymuned newydd mewn ysgrifen am y swm y mae'n rhaid hysbysu amdano yn unol â'r paragraff hwn.

7

O ran y cyngor cymuned newydd, y darpar awdurdod bilio a'r flwyddyn ariannol berthnasol, mae Rheoliadau 1995 yn cael effaith fel petai—

a

rheoliad 5 (gwybodaeth am amserlenni ar gyfer rhandaliadau) wedi ei hepgor;

b

ym mharagraff 8 o Ran II o'r Atodlen (rheolau i benderfynu'r amserlenni ar gyfer rhandaliadau)—

i

yn is-baragraffau (1), (2) a (3) ym mhob achos yr ail “or” a'r geiriau sy'n dilyn hyd at ddiwedd pob is-baragraff wedi eu hepgor; a

ii

yn is-baragraff (1)(a) “May” wedi ei roi yn lle “April”.