Diwygiadau2
Yn yr Atodlen (Tanwyddau Awdurdodedig) i Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 20083—
a
ar ôl paragraff 4, mewnosoder—
4A
Big K Restaurant Grade Charcoal, a weithgynhyrchir gan Big K Products UK Limited yn Parque Industrial Alvear, 2126 Alvear, Provincia de Santa Fe, Yr Ariannin—
a
sydd wedi'i gyfansoddi o bren quebracho gwyn wedi'i byroleisio;
b
a weithgynhyrchwyd drwy ddefnyddio proses pyrolysis odyn ar ryw 450°C;
c
sy'n ddarnau golosg rhwng 30 o filimetrau a 150 o filimetrau a'r darnau hynny heb eu marcio; ac
ch
nad yw'r sylffwr sydd ynddo'n fwy na 2 y cant o'r cyfanswm pwysau.
b
ar ôl paragraff 8A, mewnosoder—
8B
Brics glo Briteheat Plus, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
a
sydd wedi'u cyfansoddi o lwch glo caled (sef rhyw 75 i 95 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (hyd at ryw 20 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);
b
a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;
c
sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;
ch
sy'n pwyso 80 gram y fricsen ar gyfartaledd; a
d
nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2 y cant o'r cyfanswm pwysau.
c
ar ôl paragraff 18, mewnosoder—
18A
Brics glo EDF Fuel, a weithgynhyrchir gan TheGreenFactory yn y Laboratoire de Chimie Agro-industrielle UMR 1010 INRA/INP-ENSIACET AGROMAT, Site de l'ENIT 47, Avenue D'Azereiz, -BP 1629 65016 Tarbes Cedex, Ffrainc—
a
sydd wedi'u cyfansoddi o ryw 100 gram o Miscanthus heb eu prosesu (sef rhyw 45 y cant o'r cyfanswm pwysau), rhyw 95 gram o ester Copra (sef rhyw 43 y cant o'r cyfanswm pwysau), a rhyw 25 gram o rwymwr a gynhyrchwyd o Miscanthus (wedi'i brosesu gyda chalsiwm ocsid, sef rhyw 0.5 y cant o'r cyfanswm pwysau) o ran gweddill y pwysau;
b
a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys prosesu Miscanthus, cymysgu, poethwasgu, a throchi mewn baddon ester;
c
sy'n frics glo ar siâp silindr sydd heb eu marcio, y mae eu huchder yn 120 o filimetrau a'u diamedr yn 60 o filimetrau, ac y mae twll ar siâp seren yn rhedeg yn ganolog drwy ochr hiraf y fricsen;
ch
sy'n pwyso 220 gram y fricsen ar gyfartaledd; a
d
nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2 y cant o'r cyfanswm pwysau.
ch
ar ôl paragraff 21, mewnosoder—
21A
Homefire Fire Logs, a weithgynhyrchir gan De Lange B.V., Rustenbugerweg 3, 1646 WJ Ursem, Yr Iseldiroedd—
a
sydd wedi'u cyfansoddi o gŵyr hydrin (sef rhyw 50 y cant o'r cyfanswm pwysau) a blawd llif (sef rhyw 50 y cant o'r cyfanswm pwysau);
b
a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;
c
sy'n foncyffion tân rhyw 280 o filimetrau eu hyd ac yn 75 o filimetrau × 75 o filimetrau gydag un rhigol yn rhedeg ar hyd pob un o'u pedwar wyneb sy'n 280 o filimetrau eu hyd;
ch
sy'n pwyso 1.1 cilogram y boncyff ar gyfartaledd; a
d
nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.2 y cant o'r cyfanswm pwysau.
d
ar ôl paragraff 30, mewnosoder—
30A
Brics glo Newflame Plus, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited, Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, CF72 8PN—
a
sydd wedi'u cyfansoddi o 10 i 15 y cant glo meddal, 10 i 15 y cant golosg petrolewm, a llwch glo caled a rhwymwr starts yw gweddill y pwysau;
b
a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260°C.
c
sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd ac y mae uchafswm eu dimensiynau yn rhyw 68 o filimetrau × 63 o filimetrau × 38 o filimetrau;
ch
sy'n pwyso 110 gram y fricsen ar gyfartaledd; a
d
nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 1.9 y cant o sylffwr ar sail sych.
dd
yn lle paragraff 36, rhodder—
36
Brics glo Stoveheat Premium, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
a
sydd wedi'u cyfansoddi o lwch glo caled (sef rhyw 65 i 85 y cant o gyfanswm eu pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);
b
a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;
c
sy'n frics glo ar siâp clustogau, y mae llinell sydd wedi'i hindentio'n rhedeg o'u hamgylch;
ch
sy'n pwyso 30 gram y fricsen ar gyfartaledd; a
d
nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o'r cyfanswm pwysau.