(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ardaloedd Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008 (O.S 2008/3100 (Cy.274)) (“Rheoliadau 2008”), sy'n nodi'r tanwyddau y datganwyd eu bod yn danwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III (gan gynnwys adran 20) o Ddeddf Aer Glân 1993 (“Deddf 1993”).

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio y rhestr o danwyddau awdurdodedig yn yr Atodlen i Reoliadau 2008 drwy—

a

ychwanegu pum tanwydd newydd (Big K Restaurant Grade Charcoal, brics glo Briteheat Plus, brics glo EDF Fuel, Homefire Fire Logs a brics glo Newflame Plus); a

b

diwygio manylebau un tanwydd arall (brics glo Stoveheat Premium).

Mae Rheoliad 3 yn sicrhau y bydd unrhryw danwydd (sef brics glo Stoveheat Premium) a weithgynhyrchwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ac a oedd yn danwydd awdurdodedig ar yr adeg pan gafodd ei weithgynhyrchu, yn parhau i fod yn danwydd awdurdodedig

Mae adran 20 o Ddeddf 1993 yn darparu ei bod yn dramgwydd i ollwng mwg o simnai adeilad, neu simnai sy'n gwasanaethu ffwrnais bwyler sefydlog neu beiriannau diwydiannol, pan fo'r simnai honno mewn ardal rheoli mwg. Er hynny, mae'n amddiffyniad os gellir profi mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.

Yng Nghymru, ystyr tanwydd awdurdodedig yw tanwydd y datganwyd ei fod yn danwydd awdurdodedig drwy reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Mae copi ar gael gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.