- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001(1) fel a ganlyn.
(2) Rhodder y canlynol yn lle rheoliad 8—
“8.—(1) Rhaid i'r Cyngor gynnwys ar Bwyllgor—
(a)un neu ragor o aelodau lleyg; a
(b)un neu ragor o aelodau sy'n athrawon cofrestredig.
(2) Y cworwm ar gyfer cyfarfod Pwyllgor yw tri aelod, gan gynnwys un aelod lleyg ac un aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig.
(3) Rhaid peidio â phenodi person sy'n aelod o'r Cyngor yn aelod o Bwyllgor.
(4) Rhaid peidio â phenodi person sy'n aelod o'r Pwyllgor Ymchwilio sy'n ymchwilio i achos yn aelod o'r Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol na'r Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol sy'n penderfynu ar yr achos hwnnw.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) i (4) a rheoliadau 20 a 22, caiff y Cyngor wneud unrhyw ddarpariaeth y mae'n barnu ei bod yn addas o ran y canlynol—
(a)aelodaeth Pwyllgor;
(b)ar ba delerau y mae aelodau'r Pwyllgor i ddal swydd ac ymadael â hi; ac
(c)y weithdrefn ar gyfer Pwyllgor.
(6) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “aelod lleyg” (“lay member”) yw aelod o'r Pwyllgor nad yw—
(i)yn athro neu'n athrawes gofrestredig, neu
(ii)yn gyflogedig, neu wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau ac eithrio o dan gontract cyflogaeth, fel athro neu athrawes neu wedi bod yn gyflogedig neu wedi ei gymryd ymlaen felly o fewn cyfnod o 5 mlynedd a ddaeth i ben ar y dyddiad y penodwyd y person hwnnw i'r Pwyllgor,
ac ni fydd aelod lleyg sy'n dod yn athro neu'n athrawes gofrestredig neu sy'n cymryd swydd athro neu athrawes neu'n cael ei gymryd ymlaen fel athro neu athrawes yn cael ei ystyried bellach yn aelod lleyg;
(b)ystyr “aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig” (“registered teacher member”) yw aelod o'r Pwyllgor—
(i)sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig, a
(ii)sy'n gyflogedig, neu wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau ac eithrio o dan gontract cyflogaeth, fel athro neu athrawes ar y dyddiad y penodir y person hwnnw i'r Pwyllgor,
ac ni fydd aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig ac sy'n peidio â bod yn athro neu'n athrawes gofrestredig neu sy'n peidio â dal swydd athro neu athrawes neu'n gorffen cael ei gymryd ymlaen fel athro neu athrawes yn cael ei ystyried bellach yn aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig.”.
O.S. 2001/1424 (Cy. 99) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/503 (Cy. 71), O.S. 2003/542 (Cy. 76), adran 81(5) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (2009 p. 26), O.S. 2009/1354 (Cy. 130), O.S. 2009/2161 (Cy. 184) ac O.S. 2010/1142 (Cy. 101).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: